Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Heol y Bontfaen, Pont-y-clun, ddydd Mawrth 23 Ebrill wedi'i enwi fel Jason Griffiths, 51 oed, o Faesycwmwr.
Mae teulu Jason wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo: “Roedd Jason yn golygu popeth i ni, roedd yn Ŵr, yn Dad, yn Fab, yn Frawd ac yn Dad-cu, ac mae wedi'i gymryd yn rhy gynnar o lawer. Byddi di yn ein calonnau am byth ac ni fyddwn ni byth yn dy anghofio di.
“Ni all dim esbonio'r golled rydym yn ei theimlo nawr.
“Roedd yn berson mor gyfeillgar ac roedd ganddo galon aur. Byddai'n gwneud popeth o fewn ei allu i helpu unrhyw un.
“Bydd ei wraig a'i deulu annwyl yn gweld ei eisiau'n fawr iawn.”
Talodd ei fab Ben deyrnged iddo: “Bydd colled enfawr ar dy ôl, Dad, ac nid oes geiriau i ddisgrifio'r tristwch a'r golled rwy'n eu teimlo yn awr. Mae colli tad cariadus yn sydyn y tu hwnt i eiriau. Byddaf yn dy garu am byth, ac rwy'n gweld dy eisiau'n ofnadwy.”
Dywedodd ei fam, Ann: “Jason, fy machgen i, byddwn ni'n gweld dy eisiau'n ofnadwy. Roeddet ti'n fab, yn frawd ac yn dad cariadus. Roeddet yn garedig ac yn ofalgar, a bydd hiraeth mawr amdanat bob dydd.
Roedd Jason Griffiths yn gweithio fel Cynorthwyydd Cynnal a Chadw yng Ngwesty'r Vale. Dywedodd Stephen Leeke, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwesty'r Vale: “Roedd yn sioc ac yn dristwch mawr gennym glywed am ddamwain drychinebus Jason, un o aelodau gwerthfawr ein staff. Rydym yn meddwl am aelodau ei deulu ac yn cydymdeimlo â nhw ar yr adeg anodd hon.”
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad i gysylltu â ni gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300167626.
Ewch i:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111