Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Anfonwyd menyw 39 oed o Gasnewydd i'r carchar am chwe blynedd ar ôl iddi ei chael yn euog o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Roedd Rachel Simpson yn gweithio fel paragyfreithwraig yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron pan gafodd ei harestio ym mis Mehefin 2020 gan swyddogion o Uned Atal Llygredigaeth Heddlu De Cymru. Cafodd yr achos ei arwain gan Tarian, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ar gyfer ardal de Cymru.
Yn dilyn tystiolaeth a ddatgelwyd drwy'r ymchwiliad i weithgarwch grŵp troseddau cyfundrefnol yn ardal Casnewydd, daeth yn amlwg fod Simpson wedi bod yn darparu gwybodaeth o ffynonellau'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i grwpiau troseddu cyfundrefnol yng Nghasnewydd ac yn ddiweddarach ar Lannau Mersi ers nifer o flynyddoedd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Houghton o Tarian: “Roedd Simpson mewn swydd o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb o fewn y CPS â'i bradychodd, gan siomi ei chydweithwyr, yr heddlu a’r cyhoedd.
“Mae ein hymchwiliad wedi arwain at ddwy drosedd o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus a 29 o droseddau yn gysylltiedig â'r ddeddf camddefnyddio cyfrifiaduron ac roedd cymaint o dystiolaeth yn ei herbyn fel nad oedd ganddi lawer o ddewis ond i bledio'n euog cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd Andrew Penhale, Prif Erlynydd y Goron: “Fel un o gweithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron, roedd Rachel Simpson mewn rôl o ymddiriedaeth a dim ond pan fo'n angenrheidiol i'w swydd roedd disgwyl iddi gael gafael ar wybodaeth sensitif a chyfrinachol.
“Roedd hi'n cael gafael ar ddeunydd yn aml pan nad oedd angen busnes ac, ar ddau achlysur, cafodd y deunydd sensitif a gafodd ei basio ymlaen i droseddwyr cyfundrefnol.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn disgwyl i'r holl staff weithredu ag unplygrwydd wrth drin data a gedwir ar ei systemau ac roedd ymddygiad Simpson yn is o lawer na'r safonau hyn. Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn unigolion sy'n ymddwyn yn anghyfreithlon. Hefyd rydym yn adolygu ein systemau digidol yn gyson i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl.”