Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar waelod Wind Street ar Ffordd Victoria (sy'n adnabyddus fel Parêd y Cei), tua 9.35pm neithiwr (nos Wener 19 Mai).
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur a cherddwr.
Aethpwyd â gyrrwr y beic modur, sef dyn 23 oed, i'r ysbyty gyda mân anafiadau, a chafodd ei arestio yn ddiweddarach ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Aethpwyd â'r cerddwr, sef dyn 20 oed, i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n bygwth bywyd.
Dywedodd y Rhingyll Lee Christer:
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am ei hamynedd wrth i'r gwasanaethau brys ymateb. Mae'r ffordd wedi'i hailagor.
“Rydym yn ymwybodol o nifer o feiciau modur a oedd yn teithio gyda'i gilydd ar hyd Heol y Mwmbwls cyn y gwrthdrawiad.
“Hoffem glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad, neu unrhyw un a welodd y grŵp o feicwyr modur cyn y gwrthdrawiad.
“Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2300163122."
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.