Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cabinetau Openreach ym Mhenarth wedi cael eu troi’n weithiau celf fel rhan o brosiect rhwng Heddlu De Cymru a phlant ysgol leol.
Mae’r blychau, sydd fel arfer yn rhai gwyrdd plaen, wedi’u trawsnewid yn ddelweddau llachar trawiadol o’r Pier, Cosmeston a phen arth.
Disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Victoria a ddyluniodd y gwaith celf, ac aethant ati yr wythnos hon i baentio pedwar bocs gyda chymorth yr artist graffiti lleol, Hurts So Good, sef Kyle Hill.
Trefnwyd y prosiect gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Ceri Evans a Luke Short, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid y Fro a ddarparodd gyllid.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Ceri Evans:
“Nod y prosiect yw rhoi cyfle i’r plant ddysgu a deall yr effaith negyddol y gall graffiti ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chael ar y gymuned.
“Bydd y prosiect yn rhoi'r cyfle i’r plant wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r ardal leol a chael ymdeimlad o falchder wrth greu'r gwaith celf paentiedig.
“Yn ogystal, bydd y gymuned yn elwa ar gael y delweddau bywiog gwych hyn wedi'u gwasgaru o amgylch y dref.
“Mae’r cabinetau hyn yn aml yn dod yn dargedau ar gyfer tagiau graffiti. Rydym hefyd am i'r gwaith cadarnhaol hwn atal troseddwyr rhag achosi difrod".
Mae’r cabinetau sydd newydd eu paentio i’w gweld gyferbyn â’r Pier, yng nghanol y dref ger y gylchfan, ar gyffordd Stanwell Road a Grove Terrace, a Windsor Road, Cogan.
Dywedodd Mrs Hatton, cynorthwyydd cymorth dysgu o Ysgol Gynradd Victoria, a aeth gyda’r plant i'r sesiynau:
“Rydyn ni’n meddwl bod y prosiect hwn yn wych i’r gymuned ac i'r plant, sy’n cael gweld eu gwaith celf yn cael ei arddangos.”
Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r prosiect, gyda llawer o’r cyhoedd yn stopio i edmygu’r gwaith celf a llongyfarch y disgyblion.
I wneud cais am ganiatâd i baentio gwaith celf ar un o gabinetau Openreach, cysylltwch â: https://www.openreach.com/help-and-support/damage-health-and-safety/cabinet-art