Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Datganiad i'r cyfryngau gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Bacon ddydd Mercher 24 Mai:
Nos Lun fe ddigwyddodd gwrthdrawiad ffyrdd difrifol ar Snowden Road, Trelái, ac yn drasig bu farw Kyrees Sullivan a Harvey Evans, dau ffrind oedd yn byw yng nghymuned Trelái.
Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau Kyrees a Harvey a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Gallwn ond dechrau dychmygu'r galar y maent yn ei brofi ar hyn o bryd.
Mae'r teuluoedd yn parhau i gael eu cefnogi a'u diweddaru gan swyddogion cyswllt teulu.
Rwy’n ymwybodol o bryderon yn y gymuned leol ynghylch amserlen y digwyddiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad angheuol, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng sy’n dangos cerbyd heddlu yn dilyn beic yn Frank Road.
Felly, rwyf am gadarnhau amserlen y digwyddiadau:
Byddem wedi hoffi darparu’r lefel hon o wybodaeth ddoe, ond mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ac roedd yn rhaid inni fod yn sicr o’r ffeithiau hyn cyn eu cadarnhau.
Rydym wedi bod yn cadarnhau bod gennym gyfrifon tystion clir, yn dadansoddi data olrhain o gerbydau’r heddlu ac yn astudio teledu cylch cyfyng a dyma’r hyn a wyddom bellach.
Nid oedd cerbyd yr heddlu yn Snowden Road ar adeg y gwrthdrawiad a chredwn nad oedd unrhyw gerbydau eraill yn rhan o’r digwyddiad.
Rydym wedi gwneud atgyfeiriad gorfodol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i sicrhau bod y mater yn cael ei graffu’n annibynnol. Byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd gennym iddynt, a byddant yn cynnal ymchwiliad annibynnol.
Ni all unrhyw beth esgusodi lefel y trais a'r anhrefn a ddilynodd yn y gymuned. Cafodd eiddo ei ddifrodi ac roedd yna bobl yn ofnus yn eu cartrefi eu hunain.
Ein ffocws nawr yw ymchwilio’n llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad a’r golygfeydd erchyll a ddilynodd.
Rydym yn apelio am dystion, gwybodaeth, a deunydd fideo o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol.
Rydym eisoes wedi casglu tua 180 o ddarnau o ffilm a wisgwyd ar y corff gan swyddogion heddlu yn y lleoliad ac mae disgwyl i’r nifer hwn gynyddu.
Mae swyddogion hefyd yn mynd drwy gannoedd o oriau o deledu cylch cyfyng cyhoeddus a fideos sy'n cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol.
Gall unrhyw un sydd â recordiad o ddigwyddiadau nos Lun ei uwchlwytho trwy ddolen ar ein gwefan. Rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth y gymuned hyd yn hyn, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd digidol ar-lein drwy borth cyhoeddus: https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO1