Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddau fachgen a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn ardal Trelái ddydd Llun wedi cael eu henwi fel Harvey Evans, 15 oed, a Kyrees Sullivan, 16 oed.
Mae teulu Harvey wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
“Mae marwolaeth sydyn Harvey, a oedd yn fab, ŵyr, brawd, nai, ffrind a chariad annwyl, wedi torri ein calonnau yn llwyr.
“Roedd yn byw bywyd i'r eithaf ac roedd ganddo galon fawr. Roedd yn ffrind gorau i Kyrees, ac rydym yn meddwl am aelodau ei deulu yntau hefyd, ac yn gweddio drostynt.
“Gofynnwn am heddwch yn y gymuned ac i bobl adael yr ymchwilio i'r heddlu, er mwyn i ni gael yr atebion y mae eu dirfawr angen arnom er mwyn rhoi Harvey i orffwys.
“Fel mam Harvey, rwyf am gofio amdano fel mab hwyliog a chariadus, ac nid fel y mae'r cyfryngu yn ei bortreadu ar hyn o bryd.”
Harvey Evans (ar y dde bellaf) gyda'i deulu
Mae teulu Kyrees wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
“Roedd Kyrees yn ddyn ifanc cariadus, gofalgar a golygus, yn fab annwyl i Belinda a Craig, yn frawd bach i Aleah a Jordan, ac yn ewythr KyKy arbennig i Myra.
“Roedd ei fam-gu a'i dad-cu, ei fodrybedd a'i ewythrod, a'i gefndryd a'i gyfnitherod lu, yn ei garu'n fawr.
“Roedd ef a Harvey, ynghyd â Niall, yn ffrindiau gorau ers yn ifanc, ac roeddent yn mynd i bobman gyda'i gilydd. Roedd gan y ddau lawer iawn o ffrindiau ac roeddent wrth eu bodd yn gwneud llawer o bethau gyda'i gilydd, yn cael hwyl ac yn chwerthin!!
“Nid yn unig yr oedd teuluoedd y ddau yn eu caru, ond roedd eu cymuned yn eu caru hefyd. Hoffai Belinda, Craig a'r teuluoedd ddiolch i bawb am eu geiriau caredig, y blodau a'r negeseuon ers iddynt golli eu mab.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ac anhrefn difrifol a ddigwyddodd ddydd Llun, 22 Mai.
Rydym yn apelio am dystion, gwybodaeth, deunydd teledu cylch cyfyng a deunydd fideo o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth y gymuned ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Harvey (chwith) a Kyrees (dde) yn ifanc
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud atgyfeiriad gorfodol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn sicrhau y creffir yn annibynnol ar y mater.
Cyflwynwch unrhyw wybodaeth a deunydd fideo digidol ar-lein drwy borth cyhoeddus: https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO1