Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a golygfeydd o anhrefn treisgar a ddigwyddodd yn ardal Trelái, Caerdydd neithiwr (nos Lun 22 Mai).
Ychydig ar ôl 6pm ddoe cawsom adroddiad o wrthdrawiad ffordd difrifol ar Snowden Road a arweiniodd at farwolaethau dau fachgen yn eu harddegau.
Ymatebodd yr heddlu i’r gwrthdrawiad, a oedd eisoes wedi digwydd pan gyrhaeddodd y swyddogion, ac fe arhoson nhw yn y lleoliad i reoli anhrefn ar raddfa fawr tan oriau mân y bore 'ma.
Defnyddiwyd swyddogion trefn gyhoeddus a oedd wedi'u hyfforddi'n arbennig hefyd, gan gynnwys swyddogion o heddluoedd cyfagos.
Cafodd sawl cerbyd ei roi ar dân, difrodwyd eiddo ac anafwyd swyddogion yr heddlu yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Mark Travis: “Yn gyntaf ac yn bennaf mae ein meddyliau gyda theuluoedd y ddau fachgen a fu farw yn dilyn y gwrthdrawiad yn Nhrelái a’r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt gan yr anhrefn a ddilynodd.
“Nid ydym yn disgwyl gweld golygfeydd fel hyn yn ein cymunedau, yn enwedig cymuned glos fel Trelái. Cawsom nifer fawr o alwadau gan drigolion a oedd, yn ddealladwy, wedi eu dychryn gan weithredoedd y grŵp mawr hwn a oedd yn benderfynol o achosi trosedd ac anhrefn.
“Roedd lefel y trais yn erbyn y gwasanaethau brys, a'r difrod a wnaed i eiddo a cherbydau, yn gwbl annerbyniol.
“Ein ffocws nawr yw ymchwilio’n llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad a’r golygfeydd erchyll a ddilynodd.
“Mae arestiadau eisoes wedi’u gwneud mewn cysylltiad â’r anhrefn a bydd mwy yn dilyn. Bydd mwy o heddweision yn bresennol yn yr ardal trwy gydol yr wythnos ac i mewn i'r penwythnos.
“Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cymorth ac apeliwn ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo i gysylltu â ni a darparu'r deunydd hwnnw.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu’r anhrefn gysylltu â ni gan ddyfynnu 2200166555.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
DIWEDD.