Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ac anhrefn difrifol a ddigwyddodd yn ardal Trelái, Caerdydd neithiwr.
Am 6.03pm ddoe, cawsom adroddiad am wrthdrawiad difrifol ar Snowden Road a arweiniodd at farwolaethau traisg dau fachgen yn eu harddegau.
Mae teuluoedd y ddau fachgen yn cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol. Rydym yn meddwl am y ddau deulu ar yr adeg anodd hon.
Mae beic trydanol wedi’i atafaelu o’r lleoliad ac mae ymholiadau’n mynd rhagddynt i geisio canfod yr union amgylchiadau.
Rydym wedi cael deunydd fideo teledu cylch cyfyng sy'n dangos un o gerbydau'r heddlu yn dilyn y beic ychydig cyn 6pm. Mae'r deunydd fideo hwn yn cael ei adfer fel rhan o'r ymchwiliad, a fydd yn ein helpu i ganfod yr union amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad. Mae'r teuluoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gallwn gadarnhau, yn dilyn yr ymchwiliadau a gynhaliwyd hyd yma, nad oedd unrhyw un o gerbydau'r heddlu ar Snowden Road pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Ymatebodd un o gerbydau'r heddlu ar Grand Avenue i'r adroddiad am wrthdrawiad, a rhoddodd y swyddogion CPR.
Mae'r ymchwiliad wedi cynnwys astudio deunydd teledu cylch cyfyng ac olrhain data o gerbyd yr heddlu.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu bod unrhyw gerbyd arall yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.
Yn ystod yr anhrefn, cafodd 15 o swyddogion eu hanafu a bu'n rhaid iddynt gael sylw meddygol. Aeth 11 ohonynt i'r ysbyty, a chafodd pedwar eu trin yn y fan a'r lle.
Ein ffocws nawr yw ymchwilio’n llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad a’r golygfeydd erchyll a ddilynodd.
Rydym yn apelio am dystion, gwybodaeth, a deunydd fideo o ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn cydnabod yr effaith a gafodd yr anhrefn neithiwr ar drigolion lleol a oedd, yn ddealladwy, yn ofnus iawn. Gallwn roi sicrwydd iddynt y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i arestio'r rhai sy'n gyfrifol. Mae nifer o bobl eisoes wedi cael eu harestio a bydd mwy o arestiadau yn dilyn.
Rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth y gymuned ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud atgyfeiriad gorfodol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn sicrhau sicrhau y creffir yn annibynnol ar y mater.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd digidol ar-lein drwy borth cyhoeddus https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO1
Fel arall, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o’r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu 2300166555.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.