Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dyn o Gasnewydd a fu’n sgwrsio â rhywun a oedd yn ferch 12 oed yn ei dyb ef, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth (23 Mai).
Cafodd dyn o Gasnewydd a fu’n sgwrsio â rhywun a oedd yn ferch 12 oed yn ei dyb ef, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth (23 Mai).
Dedfrydwyd Mathew Jones, 33 oed o’r Betws, Casnewydd, i bum mlynedd a phedwar mis o garchar, ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o droseddau rhywiol ar-lein, yn cynnwys cyfathrebu’n rhywiol â phlentyn a threfnu cwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas amhriodol ag ef.
Cafodd Jones ei arestio a'i gyhuddo gan swyddogion o Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, a Heddlu De Cymru ym mis Mawrth 2023.
Nodwyd bod Jones wedi bod yn sgwrsio â heddwas cudd, gan gredu mai merch 12 oed ydoedd. Trodd y sgwrs yn rhywiol, wrth iddo fynd ati'n gyflym i drefnu cwrdd â'r 'plentyn'. Cafodd Jones ei ddal yn y weithred o gyfarfod â rhywun a oedd yn blentyn yn ei dyb ef, a chafodd ei gadw'n gyflym a'i arestio.
Yn dilyn hyn, cafodd ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa. Roedd cymaint o dystiolaeth yn ei erbyn nes iddo bledio'n euog i bob cyhuddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mathew Davies o Tarian:
“Mae'r canlyniad yn un nodedig arall i ni a Heddlu De Cymru, wrth i ni atal unigolyn peryglus rhag manteisio ar blant bregus. Cyn iddo gael ei ddal, roedd Jones yn aelod uchel ei barch o'r gymuned yng Nghasnewydd. Drwy weithio'n agos gyda Heddlu De Cymru, bu modd i ni adnabod Jones a'i gadw'n brydlon, er mwyn ei atal rhag cyflawni troseddau pellach.
“Mae diogelu plant yn ein cymunedau yn hynod bwysig, a thrwy weithio’n agos gyda holl heddluoedd De Cymru, byddwn yn parhau i dargedu’r troseddwyr hynny sy’n ceisio camfanteisio ar blant. Byddwn yn ymdrechu’n ddiflino i ddod â’r troseddwyr hynny sy’n parhau i ddefnyddio’r rhyngrwyd i gam-drin plant o flaen eu gwell.
“Rydym yn annog unrhyw un a gafodd ei gam-drin yn rhywiol yn blentyn i roi gwybod i'w heddlu lleol drwy ffonio 101. Byddwn bob amser yn mynd ar drywydd honiadau o gam-drin, ni waeth pryd y gwnaethant ddigwydd. Gall dioddefwyr siarad yn gyfrinachol ag ymchwilwyr profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth eraill.
“Os oes gennych bryderon am eich defnydd o’r rhyngrwyd neu'ch meddyliau neu ymddygiad amhriodol mewn perthynas â phlant, neu os ydych yn poeni am y ffordd y mae rhywun rydych yn ei adnabod yn ymddwyn o amgylch plant neu’n poeni am ei ddefnydd o’r rhyngrwyd, yna mae Sefydliad Lucy Faithfull yn darparu gwasanaeth dienw, am ddim a chyfrinachol Stop It Now! Ffoniwch y llinell Gymorth ar 0808 1000 900 i gael cyngor, cymorth a gwybodaeth.”