Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod oriau mân y bore ar 4 Ebrill, daeth PC Amy Sutton a'r Cwnstabl Gwirfoddol Olivia Lester ar draws dyn yn bygwth neidio oddi ar bont yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Wrth i'r swyddogion geisio siarad â'r dyn, dringodd drosodd i ochr anghywir y rheiliau a dangosodd fwriad i neidio.
Ymatebodd Amy ac Olivia yn gyflym drwy ddal gafael yn y dyn, a aeth ati wedyn i frwydro â nhw a cheisio neidio i'r afon islaw, gan weiddi arnynt i ‘adael iddo fynd’.
Ar un adeg, roedd y dyn yn hongian yn gyfan gwbl o'r bont. Roedd yn cael ei ddal i fyny wrth ei freichiau gan Amy ac Olivia, a gymerodd cryn gryfder ac egni.
Drwy gydol yr amser hwn, defnyddiodd y ddau swyddog eu dyfeisiau radio i gyfathrebu mewn ffordd wych, gan alluogi swyddogion ychwanegol i ddod o hyd iddynt a'u helpu'n gyflym i dynnu'r dyn dros y rheiliau i dir diogel.
Dywedodd y Prif Arolygydd Rob Miles:
“Rwy'n eithriadol o falch o PC Amy Sutton a'r Cwnstabl Gwirfoddol Olivia Lester.
“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai'r dyn, heb eu hymyrraeth amserol ac arwrol nhw, wedi llwyddo i neidio oddi ar y bont, a fyddai'n debygol o fod wedi arwain at anaf difrifol neu farwolaeth. Diolch i ddewrder a phroffesiynoldeb aruthrol Amy ac Olivia, mae bywyd person agored i niwed wedi'i achub ac mae bellach mewn lle diogel.”