Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd dyn o Ben-y-bont ar Ogwr yn y llys i wynebu dros 100 o gyhuddiadau o droseddau cam-drin plant yn rhywiol fel rhan o ymchwiliad gan Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru.
Dechreuodd yr ymchwiliad pan gafodd yr heddlu guddwybodaeth am weithgarwch ar-lein amheus, yn cynnwys lawrlwytho delweddau anweddus o blant oddi ar y we dywyll.
Cadarnhawyd mai Lewis Edwards, dyn 23 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, oedd y troseddwr a nodwyd ei fod yn un o swyddogion yr heddlu sy'n gwasanaethu.
Yn dilyn ei arestiad, cafodd Edwards ei wahardd ar unwaith ac ymddiswyddodd. Cynhaliwyd gwrandawiad camymddwyn carlam, lle y cyflwynwyd y gosb o ddiswyddo. Mae wedi cael ei ychwanegu at y rhestr wahardd, sy'n ei atal rhag dychwelyd i blismona.
Ers hynny, mae Edwards wedi cael ei gyhuddo o gyfanswm o 106 o droseddau sy'n cynnwys annog plant i roi delweddau anweddus ar-lein ac i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol. Ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd lle plediodd yn euog. Mae'r ymchwiliad yn mynd rhagddo ac mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi ei ddioddefwyr a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tracey Rankine, pennaeth Tîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu: “Mae maint a difrifoldeb y troseddau a ddatgelwyd gan ein hymchwiliad yn eithafol, ac rydym wedi canolbwyntio'n bennaf ar nodi ei ddioddefwyr a gweithio gyda heddluoedd ledled y DU i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a'u cefnogi
Roedd ei ymddygiad ffiaidd yn cynnwys bygwth a blacmelio ei ddioddefwyr ifanc, a oedd yn byw mewn ofn ohono. Mae ein hymchwiliad wedi cynnwys cynnal archwiliad fforensig o gyfarpar cyfrifiadurol a dyfeisiau symudol wedi'u hamgryptio, a arweiniodd at adfer deunydd syfrdanol. Cymaint yw cryfder y dystiolaeth hon nes ei fod wedi cyfaddef y cyhuddiadau yn ei erbyn.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Danny Richards: “Bydd y cyhoedd wedi'u syfrdanu a'u ffieiddio cymaint â minnau o wybod bod y fath droseddau erchyll wedi'u cyflawni gan un o swyddogion yr heddlu sy'n gwasanaethu. Mae ymddygiad Lewis Edwards yn difetha ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona, ac yn tanseilio gwaith y mwyafrif helaeth o swyddogion cyfrifol yr heddlu sy'n gweithio'n galed i wasanaethu cymunedau De Cymru â dewrder a balchder.
“Cyn gynted ag y daeth i'r amlwg bod Edwards yn un o swyddogion yr heddlu sy'n gwasanaethu, cafodd ei wahardd a chychwynnwyd gweithrediadau camymddwyn carlam yn ei erbyn, a arweiniodd at ei ddiswyddo a'i wahardd rhag dychwelyd i blismona.
“Nid oes lle i neb yn Heddlu De Cymru sy'n camddefnyddio'r cyfrifoldeb personol sydd ganddo fel un o swyddogion yr heddlu. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein systemau fetio yn effeithiol ac roedd yr heddlu yn un o ddim ond dau yn y wlad a gafodd eu hasesu'n dda gan Arolygiaeth Ei Fawrhydi yn ddiweddar am y ffordd rydym yn fetio swyddogion a staff, pa mor effeithiol rydym wrth ddiogelu'r wybodaeth a'r data a gedwir gennym, a pha mor dda rydym yn ymdrin ag achosion o lygredd.
“Ein blaenoriaeth bennaf yw diogelu'r cyhoedd felly, os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am ddiogelwch pobl ifanc neu bobl sy'n agored i niwed neu wybodaeth am y rheini sy'n peri risg yn ein cymdeithas, yna rwy'n ei annog i gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni.”