Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn cyfeiriad ar Hill View Crescent yn fuan ar ôl 10.30am ddydd Sadwrn 20 Mai.
Mae Darren Steel wedi’i gyhuddo o lofruddio Martin Steel, 48 oed. Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae teulu Martin Steel wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddog cyswllt teuluol arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Paul Raikes:
“Yn amlwg, bydd y digwyddiad hwn wedi achosi sioc i’r gymuned leol yn y Clâs. Rwy'n meddwl am deulu Martin sydd, yn ddealladwy, wedi'u llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a'r tystion am y cymorth y maent wedi ei roi i'r ymchwiliad hyd yma.”
Mae teulu Martin wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol:
“Rydym fel teulu yn hynod o drist am ein colled sydyn. Roedd Martin yn fab, tad, tad-cu, a nai annwyl, a bydd colled fawr ar ei ôl.
“Gofynnwn i chi barchu ein preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”