Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:28 20/05/2023
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth dyn 48 oed yn y Clâs.
Galwyd yr heddlu i eiddo ar Hill View Crescent yn fuan ar ôl 10.30am heddiw (dydd Sadwrn 20 Mai).
Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae yn nalfa'r heddlu o hyd.
Disgwylir i'r corff gael ei adnabod yn ffurfiol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville:
“Yn amlwg, bydd y digwyddiad hwn yn ysgytwad i gymuned glòs y Clâs.
"Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned fod arestiad cynnar wedi'i wneud ac y bydd yr heddlu yn parhau i fod yn bresennol yn yr ardal wrth i ni barhau â'n hymholiadau a cheisio rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2300163576.”
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.