Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Talwyd teyrngedau i Keely Morgan, 15 oed, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd yng Nghaerau, Caerdydd, nos Lun.
Gan ei mam Sian Morgan a'i llysdad Liam Coulthard:
“Fel teulu, mae colli Keely mor sydyn wedi bod yn ergyd fawr. Mae ein calonnau wedi torri, ac ni wnaethom ddychmygu erioed y byddai unrhyw beth fel hyn byth yn digwydd i ni.
Roedd gan Keely wên mor brydferth a fyddai'n goleuo'r ystafell.
Roedd hi'n synhwyrol, yn garedig ac nid oedd gan unrhyw un erioed air drwg i'w ddweud amdani.
Yn ystod ei bywyd byr, llwyddodd i gyffwrdd â chynifer o bobl ac roedd ganddi gymaint o gynlluniau na chaiff bellach y cyfle i'w cyflawni.
Mae'r cariad a'r gefnogaeth eithriadol gan ein cymuned wedi bod o gysur mawr i ni, ac er na allwn ateb pawb, hoffem ddiolch i bob un ohonoch.
Yn olaf, i unrhyw un a oedd yno, a geisiodd helpu Keely, ac i’r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau glas, rydym unwaith eto fel teulu yn ddiolchgar am eich ymdrechion.
Gorffwys mewn hedd, Keely. Ni wnawn byth dy anghofio.”
Gan Martin Hulland, prifathro Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Trelái:
“Roedd clywed am farwolaeth drasig Keely Morgan o Flwyddyn 10 yn ergyd fawr i gymuned Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.
Roedd ymdeimlad aruthrol o sioc a galar eithriadol pan glywsom y newyddion ofnadwy ddoe.
Roedd Keely yn ddisgybl rhagorol a oedd wrth ei bodd yn yr ysgol. Roedd hi'n ffrind da i lawer o ddisgyblion ac roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn drama. Roedd ei theulu bob amser yn barod i gefnogi'r ysgol.
Dangosodd Keely gryfder mawr wrth iddi oresgyn problemau iechyd difrifol ac roedd yn fodel rôl wych i lawer.
Cafodd ei disgrifio fel “seren ddisglair” gan ei Phennaeth Blwyddyn, a byddwn ni i gyd yn ei cholli’n ofnadwy.
Rydym yn meddwl am ei theulu a’i ffrindiau, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu gofal a chymorth yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.”
Bu farw Keely yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd yn fuan wedi 9.30pm nos Lun 1 Mai ar Heol Trelái, Caerau yng Nghaerdydd.
Mae teulu Keely yn cael cymorth gan Swyddog Cyswllt Teuluol ac maent wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn dod i delerau â'u galar.
Rydym yn meddwl am ei theulu yn ystod y cyfnod hwn.
Cafodd dyn lleol 40 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru ac mae ymholiadau yn parhau.
DIWEDD.