Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd yr Arolygydd Plismona Lleol, Leigh Parfitt:
“Rydym yn ymchwilio i adroddiad am gi yn ymosod ar gi arall a'i berchennog ar Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn.
“Digwyddodd yr ymosodiad ddydd Mercher 10 Mai, rhwng 11am a 12pm.
“Yn anffodus, oherwydd difrifoldeb ei anafiadau, cafodd y ci clwyfedig ei roi i gysgu gan filfeddygon. Bu'n rhaid i'r perchennog hefyd gael triniaeth yn yr ysbyty am glwyf bach o ganlyniad i frathiad.
“Mae ymchwiliadau, gan gynnwys archwilio deunydd fideo teledu cylch cyfyng, yn parhau er mwyn adnabod y troseddwr.
“Credir bod y dyn yn 5 troedfedd 9 modfedd o daldra ac y gallai fod rhwng 25 a 40 oed. Roedd yn gwisgo trowsus ymarfer llwyd a siaced glas tywyll.
“Disgrifiwyd y ci fel un mawr brown â blew byr, oddeutu 2 droedfedd 5 modfedd o daldra.
“Bydd swyddogion yn mynd i gyfarfod lleol heno i roi eglurder, tawelwch meddwl a chyngor ar ddiogelu i drigolion pryderus.
“Os gwelsoch y digwyddiad neu os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddyfynnu 2300150528.”
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo
E-bostiwch [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.