Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gofynnir i drigolion ar draws ardal Heddlu De Cymru i helpu i lywio plismona yn eu cymunedau wrth i ni lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar draws de Cymru.
Yn ystod y fenter hon bydd swyddogion lleol a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) yn ymweld â chartrefi ac yn ymgysylltu â phobl mewn cymunedau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi'r cyfle i drigolion dynnu sylw at y materion maent yn teimlo y dylai'r heddlu fod yn mynd i'r afael â nhw.
Bydd y swyddogion a'r PCSOs hefyd yn annog trigolion i gofrestru ar gyfer De Cymru yn Gwrando, sy'n wasanaeth neges e-bost newydd AM DDIM sy'n ein helpu ni i gadw mewn cysylltiad â chi. Drwy gofrestru ar gyfer De Cymru yn Gwrando byddwch yn cael diweddariadau am faterion plismona yn eich ardal leol a byddwch hefyd yn gallu cydgysylltu'n uniongyrchol â swyddogion lleol a PCSOs.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Tony Williams:
“Mae'r ymgynghoriad a De Cymru yn Gwrando yn rhoi'r cyfle i drigolion ddweud wrthym beth sydd bwysicaf iddynt yn eu cymuned leol. Gallai fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n eich poeni, neu efallai bod gennych wybodaeth i basio ymlaen am achosion o ddelio mewn cyffuriau neu faterion eraill.
“Rydym am gael ac yn gwerthfawrogi eich adborth a byddwn yn ei ddefnyddio nid yn unig i lywio blaenoriaethau plismona ym mhob cymdogaeth ond byddwn yn cysylltu â chi gyda diweddariadau ynghylch pa gamau rydym wedi eu cymryd.”
Sylwer y bydd ein swyddogion a'n PCSOs mewn lifrai ac yn dangos eu cerdyn adnabod neu gardiau gwarant. Byddwn yn eich annog i'w gwirio. Byddant yn cynnal arolygon ar eu dyfeisiau symudol. Ni fydd y data a gesglir yn cael eu rhannu ag unrhyw sefydliad arall, a dim ond at ddibenion helpu i lywio blaenoriaethau plismona y cânt eu defnyddio.