Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i anhrefn difrifol a ddigwyddodd yn ardal Trelái, Caerdydd ddydd Llun, 22 Mai.
Daeth yr anhrefn yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol yn Snowden Road, Trelái, a gymerodd, yn drasig, fywydau Kyrees Sullivan a Harvey Evans, a oedd yn ddau ffrind agos iawn.
Mae ein meddyliau gyda'u theuluoedd a'u ffrindiau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Mae'r teuluoedd yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluoedd.
Mae naw person bellach wedi cael eu harestio mewn perthynas â'r anhrefn.
Cafodd pump o'r naw eu harestio yn gynnar y bore yma (Dydd Iau, Mai 25).
Cafodd pedwar dyn 16 oed, 17 oed, 18 oed a 29 oed eu harestio yn Nhrelái a chafodd un dyn 21 oed ei arestio yn Nhremorfa. Mae pob un ohonynt yn dal yn y ddalfa ac ar amheuaeth o derfysg.
Daw hyn yn dilyn arestio dau fachgen 15 oed o Drelái a Llanrhymni, merch 15 oed o'r Rhâth a bachgen 16 oed o Drelái ar noson yr anhrefn a'r diwrnod canlynol. Mae pob un ohonynt ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Cafodd sawl cerbyd ei roi ar dân, difrodwyd eiddo, anafwyd swyddogion yr heddlu ac roedd pobl yn ofnus yn eu cartrefi eu hunain, yn ystod y digwyddiad.
Disgwylir mwy o arestiadau wrth i ni barhau i nodi'r rhai dan sylw.
Fel rhan o'r ymchwiliad hyd yn hyn, mae dros 180 darn o luniau oddi ar wisg corff gan swyddogion heddlu yn y lleoliad wedi'u casglu ac mae swyddogion wrthi'n edrch ar gannoedd o oriau o luniau teledu cylch cyfyng cyhoeddus a fideos wedi'u postio ar gyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn apelio am dystion, gwybodaeth, a deunydd fideo o ffonau symudol. Teledu cylch cyfyng a chyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth y gymuned hyd yn hyn, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud atgyfeiriad gorfodol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn sicrhau sicrhau y creffir yn annibynnol ar y mater.
Byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd gennym iddynt, a byddant yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau a wnaeth arwain at y gwrthdrawiad.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd digidol ar-lein drwy borth cyhoeddus https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO1