Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Achubwyd bywyd dyn gan weithredoedd cyflym dau swyddog yn y #Rhondda a’n hymrwymiad i ehangu argaeledd Naloxone Trwynol i swyddogion rheng flaen.
Wrth ymateb i adroddiad am ddyn anymatebol ar y ffordd, gwnaeth y ddau swyddog lleol ei adnabod yn gyflym fel defnyddiwr heroin hysbys ac roeddynt yn amau ei fod wedi gorddosio.
Gwnaethon nhw gysylltu â meddyg heddlu yr oeddent yn gwybod bod ganddo'r feddyginiaeth, a all wrthdroi effeithiau gorddos, a oedd hefyd yn bresennol yn y lleoliad.
Rhoddwyd dos cyntaf ac adenillodd y dyn ymwybyddiaeth a chadarnhaodd pa sylweddau yr oedd wedi'u cymryd, cyn iddo fynd yn anymwybodol eto. Ar gyngor cydweithwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans, rhoddwyd ail ddos iddo a daeth ato'i hun cyn i'r swyddogion fynd ag ef i ysbyty cyfagos i gael sylw meddygol pellach.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stuart Johnson:
“Nid dyma’r tro cyntaf i’n swyddogion achub bywyd aelod o’r cyhoedd drwy ddefnyddio Naloxone Trwynol.
“Mae’r defnydd o gyffuriau’n gyffredin yn ein cymunedau ac, er nad yw ein swyddogion yn arbenigwyr meddygol, nhw, yn aml, yw’r rhai cyntaf yn y fan a’r lle mewn digwyddiadau fel hyn. Gall cael mynediad at Naloxone trwynol, sy'n rhoi rhywfaint o amser i'r unigolyn cyn iddo gael sylw meddygol pellach, olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
“Dechreuodd Heddlu De Cymru dreialu’r broses i swyddogion rheng flaen gludo Naloxone trwynol ym mis Tachwedd 2021, ac ym mis Medi 2022 ehangwyd hyn ar draws ardal yr heddlu.
“Hyd yma, mae ein swyddogion, sydd wedi gwirfoddoli i gario Naloxone trwynol, wedi ei roi 24 o weithiau, gan helpu i achub bywydau 24 o unigolion, sydd wedi gallu dychwelyd adref at eu teuluoedd a’u ffrindiau.
"Yna caiff yr holl unigolion hyn eu cyfeirio at asiantaethau partner am gymorth pellach gyda’u dibyniaeth.
"Rydym yn credu’n gryf ei fod yn arf hanfodol i helpu i leihau niwed ac atal marwolaethau sy’n cael effaith ddinistriol ar deuluoedd a’r gymuned ehangach.”