Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:37 24/01/2023
Dau Gwnstabl Gwirfoddol ac Arolygydd Gwirfoddol fydd y swyddogion gwirfoddol cyntaf yn hanes Heddlu De Cymru i gael cario gynnau Taser ar ddyletswydd yn dilyn newid diweddar i'r ddeddfwriaeth genedlaethol.
Er bod gan y Gwnstabliaeth Wirfoddol yr un pwerau â swyddogion parhaol ers peth amser, gan ymateb i'r un digwyddiadau ochr yn ochr â'i gilydd a gweithio fel un tîm i atal a chanfod troseddau, nid oedd swyddogion gwirfoddol wedi'u hawdurdodi i gario gynnau Taser tan y flwyddyn ddiwethaf.
Yn dilyn y newid i'r ddeddfwriaeth, roedd y Cwnstabliaid Gwirfoddol Jason Francis a Ben Johns ymhlith y garfan ddiweddaraf i ddilyn y cwrs hyfforddi tri diwrnod ar sut i ddefnyddio gynnau Taser.
Ar ôl cwblhau'r cwrs cynhwysfawr yn llwyddiannus, gallant bellach gario'r ddyfais er mwyn diogelu'r cyhoedd, eu hunain a'u cydweithwyr yn well.
Maent yn ymuno â'r Arolygydd Gwirfoddol Jonathan Edwards drwy fod wedi'u hyfforddi a'u hawdurdodi i ddefnyddio gynnau Taser.
Yn eironig ddigon, fel hyfforddwr ei hun, mae'r Arolygydd Gwirfoddol Edwards, sydd wedi bod yn Swyddog Gwirfoddol ers 26 blynedd, wedi'i hyfforddi i ddefnyddio'r ddyfais ers pum mlynedd er mwyn darparu hyfforddiant diogelwch personol i recriwtiaid newydd. Er gwaethaf hyn, roedd y ddeddfwriaeth yn golygu na allai gario un ar ddyletswydd tan nawr.
Dywedodd yr Arolygydd Gwirfoddol Edwards:
“Fel swyddogion gwirfoddol, rydym yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion ‘parhaol’ ac yn cyflawni'r un rôl â nhw. Rydym yn wynebu'r un risgiau, yr un elyniaeth a'r un lefelau o drais, felly rwy'n falch iawn o weld y gyfraith yn newid o'r diwedd i gydnabod y ffaith honno.
“Nid oes yr un swyddog yn cael ei orfodi i gario gwn Taser. Dewis personol ydyw ac, yn weithredol, dim ond darn arall o gyfarpar ydyw sy'n ein helpu i gadw ein hunain a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu mor ddiogel â phosibl.
“Yr opsiwn tactegol mwyaf effeithiol sydd gennym fel swyddogion – p'un a ydym yn wirfoddolwyr neu'n swyddogion parhaol – yw ein gallu i siarad â phobl a gweithio gyda nhw. Ac yn amlach na pheidio, mae hynny'n ddigon. Ond ar yr achlysuron hynny pan fydd angen defnyddio grym, mae'r ffaith bod yr opsiwn hwnnw bellach ar gael i swyddogion gwirfoddol hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i ni.”
Rhaid i swyddogion gwirfoddol a pharhaol fodloni meini prawf penodol cyn y byddant yn gymwys i gael hyfforddiant gynnau Taser, gan gynnwys gwasanaethu am o leiaf ddwy flynedd ac ennill statws patrôl annibynnol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae ein Cwnstabliaeth Wirfoddol yn rhan amhrisiadwy o Heddlu De Cymru; mae ein gwirfoddolwyr yn gwasanaethu cymunedau De Cymru â'r un dewrder a phroffesiynoldeb â'n swyddogion parhaol.
“Maent yn rhoi o'u hamser i wneud hynny – gyda rhai yn gwirfoddoli am fwy na 1,000 o oriau bob blwyddyn – ac mae'n hanfodol eu bod yn gallu cael yr un hyfforddiant, adnoddau a chymorth â gweddill #TîmHDC.
“Ar hyn o bryd mae gennym 114 o swyddogion gwirfoddol, y bydd gan bob un ohonynt yr opsiwn i gael hyfforddiant i gario gwn Taser os byddent yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
“Anaml iawn y caiff gwn Taser ei saethu mewn gwirionedd. Yn aml mae ei bresenoldeb ei hun yn ddigon i dawelu sefyllfa a sicrhau diogelwch pawb dan sylw.
“Rwyf wedi bod yn dadlau ers tro fod angen sicrhau bod swyddogion gweithredol mor ddiogel â phosibl yn y gwaith; mae gwn Taser yn adnodd gweithredol sy'n hyrwyddo diogelwch o safbwynt swyddogion a'r cyhoedd.”