Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:03 10/01/2023
Yn dilyn ymchwiliad hir a chymhleth i lofruddiaeth Tomasz Waga yn y Rhath, Caerdydd, mae tri dyn wedi'u carcharu heddiw.
Mae Josif Nushi a Mihai Dhana ill dau wedi cael dedfryd o oes am lofruddiaeth. Carcharwyd Hysland Aliaj am 10 mlynedd am ddynladdiad.
Cafwyd y tri yn euog ar ôl treial yn Llys y Goron, Casnewydd fis diwethaf. Gwnaethant ddychwelyd i'r llys heddiw (dydd Mawrth, 10 Ionawr) i'w dedfrydu.
Yr ymchwiliad hwn, a oedd yn canolbwyntio ar ffatri canabis, oedd un o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth ac estynedig a gynhaliwyd erioed gan Heddlu De Cymru gydag ymholiadau'n cael eu cynnal ledled y DU ac Ewrop, gan gynnwys arestiadau yn Albania, Ffrainc a'r Almaen.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea o Heddlu De Cymru: “Mae ein meddyliau gyda theulu Tomasz Waga a oedd yn fab, yn frawd, yn dad ac yn bartner annwyl.
“Roedd yn ddyn ifanc a wnaeth ddewisiadau gwael ac roedd yng Nghaerdydd am y rheswm anghywir y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, nid yw hynny'n esgusodi'r hyn a ddigwyddodd ar 28 Ionawr 2021. Digwyddiadau sydd wedi gadael teulu'n galaru a babi bach heb dad.”
Yn ystod y treial ym mis Rhagfyr 2022, clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Tomasz ac ail ddyn, Carl Davies, wedi teithio i Gaerdydd o Lundain ddydd Iau, 28 Ionawr, 2021 i dorri i mewn i ffatri canabis yn 319 Heol Casnewydd. Rhybuddiwyd y gang a oedd yn gyfrifol am y ffatri, ac ymosodwyd ar y ddau ddyn ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad.
Aed â Tomasz o'r eiddo mewn Mercedes arian, sydd heb ei ddarganfod o hyd, a chanfuwyd ei gorff yn Westville Road, Pen-y-lan, gan aelod o'r cyhoedd tua 11.30pm y diwrnod hwnnw. Roedd wedi dioddef sawl anaf.
Ychwanegodd y Ditectif Uwch-arolygydd O'Shea: “Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn y byddem yn datrys yr achos cymhleth hwn a oedd yn cynnwys grwpiau troseddau cyfundrefnol o dde-ddwyrain Lloegr ac o Ewrop.
“Rydym wedi mynd ar drywydd pobl ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop ac rydym wedi arestio pobl yn yr Almaen, Ffrainc ac Albania.
“I ddechrau, nid oeddem yn gwybod pwy oedd y dioddefwr, na phwy oedd yn gyfrifol, ac rydym wedi cyrraedd sefyllfa lle rydym wedi cyflwyno ffeithiau'r hyn a ddigwyddodd y noson honno.
“Fel y mae'r achos hwn yn ei ddangos, nid yw ffiniau rhyngwladol yn rhwystr i ni wrth olrhain pobl dan amheuaeth o lofruddiaeth yn y DU, mae gennym gysylltiadau gwych â chydweithwyr gorfodi'r gyfraith ar hyd a lled Ewrop, gan gynnwys Albania a oedd yn gymorth mawr drwy gydol ein hymchwiliad.”
Mewn perthynas â Carl Davies, cafwyd Nushi, 27 oed a Dhana, 29 oed hefyd yn euog o glwyfo'n fwriadol, a chafwyd Aliaj, 31 oed, yn euog o glwyfo.
Bydd Nushi yn treulio o leiaf 20 mlynedd o'i ddedfryd oes yn y carchar, a bydd Dhana yn treulio o leiaf 16 o flynyddoedd yn y carchar.
Mae swyddogion cyswllt teuluoedd yn parhau i gefnogi'r teulu Waga.
Mewn datganiad, dywedon nhw: “Ni all yr un ddedfryd o garchar wyrdroi'r torcalon a'r boen barhaol a deimlwn yn ddyddiol fel teulu. Fodd bynnag, ar ôl bron i ddwy flynedd, gallwn symud ymlaen.
“Talodd Tomasz yn ddrud am y digwyddiadau ar y noson y collodd ei fywyd.
“Nid ydym am i drasiedi o'r fath ddigwydd i unrhyw deulu arall a byddem yn annog unigolion i ystyried y dewisiadau a wnânt ac effaith eu gweithredoedd, boed yn fwriadol neu dan orfod, ar eu hanwyliaid.
“Bydd yn ein calonnau am byth.”
Caiff ffatrïoedd canabis eu creu i ffermio planhigion canabis ar raddfa ddwys a chynhyrchu canabis mewn sypiau. Yn aml, maen nhw mewn fflatiau, tai a garejis gwag mewn ardaloedd preswyl. Maen nhw'n cyflwyno risg o dân, oherwydd, yn aml iawn, mae'r mesurydd trydan wedi'i osgoi ac mae cylchedau trydanol wedi'u gorlwytho yn rhedeg yn agos at bibelli llawn dŵr.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd O'Shea: “Yn aml, mae pobl yn sôn am ganabis fel trosedd heb ddioddefwyr, ond nid yw hynny'n wir. Mae troseddau cyfundrefnol y tu ôl i lawer o'r ffatrïoedd canabis hyn. Mae'r troseddwyr yn ennill llawer o arian ar draul ein cymunedau ac maen nhw'n gwarchod eu planhigfeydd gan ddefnyddio trais a bygythiadau.
“Ni allwn gyflawni canlyniadau heb gymorth ein cymunedau ac os byddwch chi'n amau bod yna ffatrïoedd canabis yn eich ardal chi, rhowch wybod i ni oherwydd mae ganddynt oblygiadau a byddwn ni'n gwneud rhywbeth yn eu cylch.
“Rhai arwyddion o'r math hwn o weithgarwch yw pobl yn mynd a dod bob awr o'r dydd a'r nos, dynion ifanc yn cario bagiau o wrtaith a threfniadau goleuo. Gofynnwch y cwestiwn 'pam?' i chi eich hun.”
Er mwyn cael gwybod mwy am sut i adnabod arwyddion ffatri canabis, ewch i https://crimestoppers-uk.org/keeping-safe/community-family/cannabis-cultivation
Gallwch roi gwybod am bryderon drwy un o'r ffyrdd canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.