Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llongyfarchiadau mawr i ddau PCSO o Dde Cymru a oedd ymhlith yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo genedlaethol y mis yma.
Ar noson lwyddiannus i PCSOs De Cymru, enillodd Stuart Lloyd y wobr Dewrder am geisio achub aelod o'r cyhoedd o dân mewn tŷ, ac enillodd Leanne Thomas y wobr Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth am ei rôl wrth hyrwyddo a chefnogi cydlyniant cymunedol yn Abertawe.
At hynny, roedd PCSO Alyson Davies yn un o bedwar enwebai – a'r unig un o Gymru – yn y categori gweithio mewn partneriaeth.
![]() |
![]() |
![]() |
Roedd y Seremoni Wobrwyo PCSOs Genedlaethol yn Llundain, a gynhaliwyd ar y cyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a'r undeb Unsain, yn nodi 20 mlynedd ers cyflwyno PCSOs i faes plismona yn y DU.
Enillodd Stuart, sy'n gweithio ym Mhort Talbot, ei wobr dewrder am ei rôl wrth geisio achub aelod o'r cyhoedd o dân. Ar ôl gweld mwg du yn dod o eiddo tra roedd ar batrôl ar droed a chan wybod bod menyw oedrannus yn byw yn y cartref, galwodd y gwasanaeth tân a cheisiodd fynd i mewn i'r eiddo.
Ar ôl cael ei wthio'n ôl gan ffyrnigrwydd y tân, rhoddodd gynnig arall ar fynd i mewn i'r eiddo drwy fynedfa ochr, ynghyd ag aelod o'r cyhoedd, ond cafodd ei atal gan y tân unwaith eto. Yn y diwedd, gwnaethant wthio'r drws ar agor a gweld yr hen fenyw yn gorwedd ar y llawr. Rhoddodd Stuart gymorth cyntaf i'r dioddefwr cyn gynted ag yr oedd hi y tu allan i'r tŷ.
Ar yr un pryd, cafodd Leanne – a benodwyd yn PCSO cydlyniant rhanbarthol yn 2019 – ei chydnabod am ei hymdrechion eang. Fel rhan o'i gwaith, mae'n helpu i redeg canolfan Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu Abertawe ac mae'n aelod o fforwm LHDTC Dinas Abertawe.
Gan weld cyfle i ddod â menywod a merched o gefndiroedd amrywiol at ei gilydd, helpodd hefyd i greu ‘twrnamaint pêl-rwyd Undod’ yr heddlu, ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o'i threfnu a'i chynnal.
Mae gan Leanne ddealltwriaeth gynhwysfawr o beth yw cydlyniant cymunedol a nododd blatfform delfrydol i hyrwyddo cydlyniant a chydberthnasau cadarnhaol rhwng grwpiau y mae'n bosibl na fyddent, fel arall, yn dod at ei gilydd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Roedd yn fraint fawr cael gwahoddiad i siarad yn y seremoni wobrwyo yng nghanol cynifer o PCSOs gwych o bob rhan o Gymru a Lloegr.
“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, roeddwn yn falch iawn o weld nifer o PCSOs o Dde Cymru yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau. Hoffwn longyfarch pawb a enwebwyd ac, wrth gwrs, ein henillwyr.
“Rwy'n credu'n gryf fod cyflwyno PCSOs 20 mlynedd yn ôl yn gam hynod o bwysig i faes plismona yn y DU. Mae timau plismona yn y gymdogaeth yn rhan hanfodol o unrhyw gymuned a dyna pam mae De Cymru wedi buddsoddi ym maes plismona lleol ac wedi sicrhau ei fod wrth wraidd Cynllun yr Heddlu a Throseddu a Chynllun Cyflawni'r Prif Gwnstabl.”
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Llongyfarchiadau gwresog i Stuart, Leanne ac Alyson. Rwyf wrth fy modd eu bod wedi cael eu cydnabod.
“Maent yn dangos y gwaith a wneir gan ein timau o PCSOs, sy'n chwarae rôl hanfodol drwy helpu i gadw cymunedau De Cymru yn ddiogel. Nhw yw conglfaen Plismona yn y Gymdogaeth. Maent yn mynd i'r afael â'r problemau sy'n effeithio ar ein cymunedau ac, ar yr un pryd, yn darparu cymorth, cyngor a phresenoldeb gweladwy cyfeillgar ar ein strydoedd.
“Mae'r gwobrau hyn yn tystio i'w hymroddiad a'u hymrwymiad i'r cymunedau a wasanaethir ganddynt ac rwy'n falch iawn o'u hymdrechion.”