Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:28 24/01/2023
Dedfrydwyd Jeffery Davies, 53 oed, i 12 mlynedd yn y carchar am feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi, ar ôl i'n Tîm Troseddau Cyfundrefnol yn Abertawe gipio 14 cilo o gocên o'i gyfeiriad yn Ystalyfera, Abertawe ym mis Medi 2022. Amcangyfrir bod gan y cyffuriau a atafaelwyd werth stryd o £1 filiwn.
Dedfrydwyd Davies i 12 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe heddiw 23 Ionawr.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Marc Gardener, "Nid oes lle i droseddau cyfundrefnol yn ein cymunedau. Mae'r canlyniad hwn yn amlygu pa mor ddi-baid y byddwn yn parhau â'n hymdrechion i adnabod troseddwyr a'u dwyn o flaen eu gwell.”