Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth sydyn ac anesboniadwy dyn yn ardal Windsor Place yng nghanol dinas Caerdydd neithiwr (dydd Sul 22 Ionawr).
Er nad yw'r dyn wedi cael ei enwi'n ffurfiol eto, credir ei fod yn ddyn 39 oed o Gasnewydd.
Mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhannu â'i berthnasau agosaf.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michelle Conquer, Pennaeth Gweithrediadau Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn deall bod sioc a gofid yn y gymuned leol ac ehangach yn dilyn marwolaeth sydyn ac anesboniadwy dyn yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Sul.
"Wrth i ymchwiliad barhau, bydd ein Tîm Plismona yn y Gymdogaeth, fel bob amser, yn parhau i gynnal presenoldeb amlwg yng nghanol y ddinas.
"Mae tâp ynysu'r heddlu yn ei le wrth i ymholiadau barhau ar y safle ac rydym yn ddiolchgar i'r gymuned am ei chefnogaeth ar yr adeg hon.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol”
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Rhif: 2300022718