Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 50 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad, bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth nes y caiff ymholiadau pellach eu gwneud.
Mae teulu Darren Moore wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac maent yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt â theuluoedd.
Daethpwyd o hyd i Mr Moore, 39 oed o Gasnewydd, mewn lôn ger Windsor Place a Park Lane yng nghanol dinas Caerdydd nos Sul (22 Ionawr).
Cynhaliwyd post-mortem ac mae archwiliadau pellach yn mynd rhagddynt i ganfod achos y farwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes o Heddlu De Cymru: “Nid yw'r ymchwiliadau cychwynnol wedi datgelu na chadarnhau unrhyw achos amlwg i'r farwolaeth eto, ond mae ymholiadau helaeth yn parhau i ganfod achos ac amgylchiadau marwolaeth Mr Moore.
"Hoffwn eto hefyd ofyn yn barchus i bobl ymatal rhag dyfalu beth sydd wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol a gadael i ymchwiliad yr heddlu fynd rhagddo'n ddirwystr."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod 2300022718 drwy un o'r dulliau canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo
📧 E-bostiwch [email protected]