Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:14 25/01/2023
Mae heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth Darren Moore yng nghanol dinas Caerdydd wedi arestio dyn 50 oed ar amheuaeth o ddynladdiad.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ac mae teulu Mr Moore wedi cael eu hysbysu.
Daethpwyd o hyd i Darren Moore, 39 oed o Gasnewydd, mewn lôn ger Windsor Place a Park Lane nos Sul (22 Ionawr).
Cynhaliwyd post-mortem ac mae archwiliadau pellach yn mynd rhagddynt i ganfod achos y farwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes o Heddlu De Cymru: “Nid yw'r ymchwiliadau cychwynnol wedi datgelu na chadarnhau unrhyw achos amlwg i'r farwolaeth eto, ond mae ymholiadau helaeth yn parhau i ganfod achos ac amgylchiadau marwolaeth Mr Moore.
“Hoffwn ddiolch i'r gymuned am y cymorth rhagorol y mae wedi ei roi i'r ymchwiliad hyd yn hyn, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn, a hoffwn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.
"Eto hefyd, gofynnaf yn barchus i bobl ymatal rhag dyfalu beth sydd wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol a gadael i ymchwiliad yr heddlu fynd rhagddo'n ddirwystr."
Mae ditectifs yn apelio ar unrhyw un a all fod wedi gweld Darren yng nghanol dinas Caerdydd yn ystod oriau mân bore dydd Sul i gysylltu â nhw.
Maent yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Park Lane a Windsor Place rhwng 3am a 7am.
Gwelwyd Darren ddiwethaf tua 5am wedi'i wisgo mewn drag ac roedd ganddo wyneb llawn o golur, ffrog werdd lachar, wig felen, sodlau uchel diamanté a bag llaw i gydweddu.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn cefnogi ac yn hysbysu'r teulu.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michelle Conquer, Pennaeth Gweithrediadau yn Uned Reoli Sylfaenol Caerdydd a'r Fro:“Rydym yn deall bod marwolaeth Darren Moore, a oedd yn artist drag adnabyddus yng Nghaerdydd, wedi achosi braw a gofid i'r gymuned leol ac ehangach.
“Wrth i'r ymchwiliad barhau, bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg o hyd yng nghanol y ddinas drwy ein Tîm Plismona yn y Gymdogaeth.
“Mae Heddlu De Cymru yn falch o gynrychioli a diogelu'r holl gymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
“Mae gan Gaerdydd draddodiad hir a balch o gydnabod, dathlu ac amddiffyn cydraddoldeb ac amrywiaeth. Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon gysylltu â Heddlu De Cymru yn gyfrinachol.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod 2300022718 drwy un o'r dulliau canlynol:
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo
📧 E-bost [email protected]
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng*