Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Jean Cardelli, 39 oed, yn Llys y Goron Casnewydd ddoe (dydd Mawrth 31 Ionawr) i gyfanswm o chwe blynedd ac wyth mis am gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
Fe wnaeth Cardelli feithrin perthynas amhriodol a cham-drin merch 15 oed o Gaerdydd ar ôl cyfarfod â'r dioddefwr yn flaenorol tra ar wyliau yn Sbaen. Plediodd Cardelli yn euog i bedwar achos o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn a thri achos o feddu ar ddelweddau anweddus o blant.
Ym mis Medi 2022 cysyltodd mam y dioddedfwr â’r heddlu gyda phryderon bod dyn hŷn yn camfanteisio ar ei merch.
Datgelodd ymchwiliadau fod y dioddefwr, 15 oed, wedi cwrdd â Jean Cardelli tra ar wyliau yn Sbaen, a'i fod wedi meithrin perthynas amhriodol ar-lein wedyn gyda'r plentyn. Teithiodd Cardelli, yn wreiddiol o'r Eidal, bellach yn byw yn Sbaen, i'r DU i gwrdd â'r dioddefwr.
Tra yng Nghaerdydd, cyfarfu â'r dioddefwr a mynd â a hi i lety Airbnb, lle bu'r ddau yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ar sawl achlysur. Ffilmiodd Cardelli'r troseddau a gyflawnodd.
Fe ddaethpwyd o hyd iddo yn ddiweddarach mewn cyfeiriad yng ngogledd Caerdydd, lle cafodd ei arestio.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio y Ditectif Gwnstabl, Simon Thomas:
"Roedd hwn yn ymchwiliad herior a hoffwn dalu teyrnged i'r dioddefwr am ei dewrder wrth iddi gefnogi'r ymchwiliad. Sicrhawyd tystiolaeth arloesol ar ffôn symudol Cardelli tra roedd yn y ddalfa.
"Yn dilyn ei gyhuddo, gwnaethom barhau i gefnogi ac ymgysylltu â'r dioddefwr. Caniataodd i'r ymchwilwyr gael mynediad i'w chyfrif Snapchat preifat a gafodd effaith sylweddol ar ganlyniad yr ymchwiliad.
“Yn amlwg, mae Cardelli yn unigolyn peryglus, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu sicrhau euogfarn i’r dioddefwr a’i theulu.”