Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaethom dderbyn cyfanswm o fwy na 6,500 o alwadau 999 dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Yn ystod y 10 diwrnod rhwng Noswyl Nadolig a Gwyl y Banc ar ddydd Llun 2 Ionawr, gwnaed cyfanswm o 6,574 alwadau i'n gwasanaeth 999 – cyfartaledd o 27 bob awr.
Yn ystod yr un cyfnod, gwnaed cyfanswm o 6,398 o alwadau nad oeddent yn rhai brys i'n gwasanaeth 101 hefyd.
Mae cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd bob amser yn adeg lle ceir galw uchel am ein hystafell reoli, neu'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus.
Er y gall fod yn rhwystredig i chi orfod aros i ni ateb eich galwad, rydym yn gweithio'n galed i wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Yn ogystal â galwadau, ymatebodd ein timau hefyd i gannoedd o ffurflenni ar-lein, negeseuon e-bost a negeseuon uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ar yr un pryd, mae'r amrywiaeth eang o dimau eraill sy'n gweithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus – gan gynnwys staff sy'n neilltuo swyddogion yr heddlu i achosion unigol, swyddogion arbenigol sy'n ymdrin â phobl sydd wedi mynd ar goll, swyddogion cuddwybodaeth, swyddogion datrys digwyddiadau, rheolwyr digwyddiadau'r heddlu a goruchwylwyr – oll wedi bod yn cefnogi pobl mewn angen ac yn blaenoriaethu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Dean Thomas:
“Yn draddodiadol, cyfnod yr wyl yw adeg brysuraf y flwyddyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'm cydweithwyr sy'n parhau i ddangos cymaint o ymroddiad ac ymrwymiad, hyd yn oed pan fydd eu teuluoedd a'u ffrindiau wrthi'n mwynhau eu hunain dros gyfnod y Nadolig o bosibl.
“Mae ein timau yn gweithio'n ddiflino i ymateb i'ch galwadau a'ch cysylltiadau, ond yn amlwg, yn ystod cyfnodau prysurach, mae ein hadnoddau yn wynebu mwy o bwysau nag arfer.
“Wrth reswm, bydd angen i ni roi blaenoriaeth i'r digwyddiadau mwyaf difrifol bob amser. Gallwch hefyd ein helpu ni i'ch helpu chi, drwy ddeialu 999 mewn argyfwng yn unig. Os nad yw'n argyfwng, efallai hefyd y byddai'n well gennych gysylltu â ni ar-lein – drwy ein cyfleuster sgwrs fyw, ein gwefan, ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bost. Mae hyn yn helpu i leihau'r galw ar y llinellau ffôn ymhellach ac yn sicrhau y gallwn ateb y galwadau hynny gan y rheini y mae'n well ganddynt ffonio.
“Dylech ystyried hefyd a yw eich ymholiad yn ymholiad y gallwn ni ymdrin ag ef. Eich awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa orau i helpu â llawer o faterion, fel parcio, tipio anghyfreithlon neu niwsans swn.”
Rydym wrthi'n recriwtio swyddogion derbyn galwadau yn ein Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i adran gyrfaoedd ein gwefan.
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni pan nad yw'n argyfwng, gan gynnwys drwy ffurflenni ar-lein ar ein gwefan; drwy'r cyfleuster sgwrs fyw ar ein gwefan (ar gael rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener); drwy e-bostio [email protected]; drwy anfon neges breifat ar un o gyfrifon swyddogol Heddlu De Cymru ar Facebook neu Twitter; neu drwy 101.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.