Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 9 blynedd 3 misoedd mlynedd wedi iddo bledio'n euog i bum trosedd o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.
Cafodd Luca Benincasa, 20 oed, o Gaerdydd ei ddedfrydu heddiw (dydd Mercher, 25 Ionawr) yn Llys y Goron Caer-wynt o bedair trosedd o dan Adran 58 o Ddeddf Terfysgaeth 2000, sef meddu ar ddogfennau a allai fod yn ddefnyddiol i derfysgwr ac un drosedd o dan Adran 11 o'r un Ddeddf – aelodaeth o sefydliad anghyfreithlon.
Cafodd Benincasa ei arestio fis Ionawr y llynedd gan dditectifs o adran Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru. Atafaelwyd sawl dyfais electronig o'i gartref ac, ar ôl eu harchwilio, daethpwyd o hyd i ddeunydd eithafol.
Roedd y deunydd yn cynnwys gwybodaeth a fyddai'n helpu rhywun i gyflawni gweithred derfysgol, neu i baratoi gweithred o'r fath. Cafodd ei gyhuddo ar 1 Chwefror 2022.
Ar 15 Gorffennaf 2022, ymddangosodd drwy gyswllt fideo byw yn Llys y Goron Caer-wynt a phlediodd yn euog i bum trosedd, sef bod yn aelod o sefydliad anghyfreithlon a meddu ar bedair dogfen a allai fod yn ddefnyddiol i derfysgwr.
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Mark Pope o adran Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru, a arweiniodd yr ymchwiliad:
“Ni ellir diystyru natur beryglus y deunydd a oedd gan Benincasa yn ei feddiant. Dyna pam ei bod hir mor bwysig dwyn y rheini sy'n ceisio ymuno â sefydliadau anghyfreithlon a chasglu deunyddiau a all fod yn ddefnyddiol i derfysgwyr i gyfrif.
“Mae'r ymchwiliad hwn a gafodd ei lywio gan gudd-wybodaeth wedi arwain at gollfarnu unigolyn peryglus ac mae'n tynnu sylw at ymrwymiad adrannau plismona gwrthderfysgaeth i fynd i'r afael â phob math o ideoleg eithafol.”
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Emma Naughton, pennaeth uned gwrthderfysgaeth Cymru:
“Mae'r heddlu ac asiantaethau eraill yma i gynnig cymorth er mwyn helpu i ddiogelu'r rheini y mae radicaleiddwyr yn debygol o fanteisio arnynt.
"Gorau po gyntaf y gallwn ymyrryd er mwyn ceisio atal pobl rhag cael eu dal ym magl radicaliaeth ac o bosibl, gael eu herlyn.
"Rydym yn gweithio'n ddiflino i atal terfysgaeth. Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, neu sy'n ymweld â'r wlad.
"Mae gweithgarwch amheus yn cynnwys unrhyw beth sy'n ymddangos yn rhyfedd, sy'n anarferol neu nad yw fel petai'n gwneud synnwyr fel rhan o fywyd beunyddiol. Rhowch wybod amdano a gadewch i ni benderfynu a yw'n bwysig ai peidio."
Dylai unrhyw un sy'n gweld neu'n clywed rhywbeth a allai fod yn gysylltiedig â therfysgaeth weithredu ar ei reddf a ffonio'r heddlu yn gyfrinachol ar 0800 789 321. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Ewch i gov.uk/ACT am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i roi gwybod am gynnwys terfysgol neu eithafol sy'n ymddangos ar-lein.