Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae priodas dan orfod bosibl wedi cael ei hatal, ac unigolyn agored i niwed wedi'i ddiogelu, yn dilyn camau gweithredu pendant a chyflym swyddogion Diogelu'r Cyhoedd yn Abertawe-Castell-nedd Port Talbot.
Daeth ditectifs yn ymwybodol y gallai cynlluniau fod wedi bod ar y gweill yn fuan i hedfan person ifanc o'r ardal dramor fel rhan o drefniant i'w briodi. Nid oes gan y person y galluedd i gydsynio i'r briodas, a dywedwyd wrth y deulu yn flaenorol o ganlyniad i hynny y byddai unrhyw drefniant o'r fath yn anghyfreithlon.
Er gwaethaf ymdrechion pellach i ymgysylltu â'r teulu, nid oedd y swyddogion na chynrychiolwyr o asiantaethau partner eraill yn fodlon na fyddai'r person yn cael ei orfodi i briodi.
O ganlyniad, gwnaed Heddlu De Cymru a Cyngor Abertawe cais i'r llysoedd am Orchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod (FMPO).
Cyflwynwyd y gorchymyn – y mae ei amodau yn unigryw i bob achos unigol – fis diwethaf.
Mae torri FMPO yn drosedd a chanddi uchafswm dedfryd o bum mlynedd o garchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Joy-Louise Lewis, yr oedd ei thîm yn allweddol wrth drefnu'r gorchymyn:
“Dyma'r tro cyntaf i ni wneud cais llwyddiannus am orchymyn o'r fath yma, sy'n dangos graddau'r pryder mewn perthynas â'r dyn ifanc dan sylw.
“Mae camau gweithredu chwim fy nhîm, y ffaith iddynt wrthod derbyn popeth a oedd yn cael ei ddweud wrthynt, a'u gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o bartneriaeth, wedi sicrhau bod oedolyn diamddiffyn, agored i niwed wedi cael ei ddiogelu ar unwaith.
"Dim ond pan fod risg wirioneddol iawn y gosodir gorchmynion o'r natur hon, felly rydym yn ddiolchgar bod y llysoedd yn cytuno bod ein pryderon wedi'u gwarantu ac wedi’i gorchmynnu'n yn syth."
Mae priodasau dan orfod yn anghyfreithlon a gallant ddigwydd i unrhyw un o unrhyw gefndir, rhywedd, cenedligrwydd a diwylliant.