Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:52 06/01/2023
Ym mis Hydref 2021, gwelodd ein swyddogion fan yn ffoi ar gyflymder yn ardal #Merthyr. Gwnaeth un swyddog ymdrech i stopio'r cerbyd, ond pan geisiodd dynnu'r allweddi allan, gyrrodd yr unigolyn dan amheuaeth ymlaen â braich y swyddog yn y cerbyd o hyd, gan achosi iddo droi yn ffrâm y drws, a thorri ei law.
Gyrrodd Lee “Pop” Davies i ffwrdd a cheisiodd gael gwared ar fag, gan ei daflu allan o ffenestr y fan. Cafodd y bag ei ddarganfod gan swyddogion ac roedd yn cynnwys 51 rholyn o grac cocên â gwerth o £1,020 ar y stryd.
Cafodd Davies ei ddal ychydig yn ddiweddarach â ffôn symudol a oedd yn cynnwys negeseuon yn gysylltiedig â chyffuriau a chyllell yn ei feddiant.
Cafodd ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa.
Ddydd Iau 22 Rhagfyr, cafodd Davies ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl iddo bledio'n euog i feddu gyda'r bwriad o gyflenwi Crac Cocên Dosbarth A, ymosod ar weithiwr brys a meddu ar gyllell mewn man cyhoeddus.
☎️ Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni. Fel arall, gallwch gysylltu ag @crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bostio swp[email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.