Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:16 01/01/2023
Mae swyddogion yn Llanilltud Fawr wedi cael pwerau ychwanegol i ddelio ag unigolion sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol heddiw.
Bydd y gorchymyn gwasgaru, a roddir o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn gymwys i bawb, gan gynnwys pobl ifanc, a bydd yn weithredol am 12 awr o 12.00 i 23.59pm ddydd Sul 1 Ionawr. Bydd yn cwmpasu'r ardal a ddangosir ar y map.
Bydd swyddogion heddlu a PCSOs yn gallu gorchymyn i unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, adael yr ardal. Bydd ganddynt hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y bydd swyddogion yn amau ei fod yn cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Haines o Heddlu De Cymru:
“Mae'r gorchymyn gwasgaru hwn ar waith y penwythnos hwn fel mesur ataliol.
“Bydd gennym fwy o heddlu yn yr ardal ac ni fydd swyddogion yn oedi rhag gorfodi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwad i siarad â'u pobl ifanc am beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am y mater hwn gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2200435319.
Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo