Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddynes a'r dyn, y ddau yn 32 oed, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Ffordd Ynysybwl ym Mhontypridd ddydd Gwener 27 Ionawr wedi cael eu henwi.
Roedd Kayleigh Cornwell yn 32 oed ac o ardal Hampshire. Mae ei theulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:
“Roedd Kayleigh yn ferch, yn chwaer ac yn fam i bump o blant prydferth yr oedd yn eu caru ac a oedd yn ei charu hi hefyd.
“Roedd bywyd Kayleigh yn gythryblus ond gwnaeth y gorau ohono ac roedd yn gallu gweld dyfodol iddi ei hun. Mae ein calonnau wedi torri.
“Rydym yn gobeithio fod Kayleigh mewn hedd ac y bydd yn symud i fywyd gwell, gan wybod cymaint roedd pawb yn ei charu.”
Roedd Jason Morgan yn 32 oed ac o ardal Ynysybwl, Pontypridd. Mae aelodau ei deulu yn ddiolchgar i bawb a fu'n ymwneud â'r achos ac maent yn meddwl am yrrwr y cerbyd a oedd yn y gwrthdrawiad.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar y B4273, Ffordd Ynysybwl, Pontypridd, am 6.30pm ddydd Gwener 27 Ionawr.
Roedd Ford Focus du a tri cherddwr yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Hoffai swyddogion glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gallai fod ganddo fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad.
Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn. Arhosodd y gyrrwr yn y man y digwyddodd y gwrthdrawiad er mwyn helpu'r swyddogion.
Rydym yn meddwl am bawb y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt.
Mae swyddogion yn parhau i apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu sydd â deunydd teledu cylch cyfyng neu fideo camera dashfwrdd a allai fod wedi recordio'r digwyddiad, i gysylltu â nhw drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 2300028708.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.