Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd y dyn hwn ei ddyfarnu'n euog o gyflawni sawl trosedd ar ei ben ei hun yn ardal y Rhondda.
Mae Gary Davenport, 39, wedi cyfaddef iddo gyflawni nifer o gyrchoedd a oedd yn targedu preswylwyr sy'n agored i niwed.
Cafodd ei nodi fel unigolyn dan amheuaeth gan yr heddlu mewn perthynas â phump bwrgleriaeth wedi iddo gael ei weld ar deledu cylch cyfyng yn lleoliad y ddwy fwrgleriaeth gyntaf, a ddigwyddodd mewn cyfadeilad byw'n annibynnol yn Nhanysguboriau, sy'n rhoi gofal ychwanegol i bobl dros 50 oed.
Aeth Davenport i mewn i ystafelloedd dau breswylydd sy'n agored i niwed pan oeddent yn cysgu ac ymestyn drostynt er mwyn cael gafael ar yr eiddo a ddygodd.
Digwyddodd y tair bwrgleriaeth arall yn ardal Llantrisant – roedd dau ddioddefwr i ffwrdd o'u cartrefi a dihunodd un dioddefwr i ganfod fod Davenport yn sefyll ar erchwyn ei gwely. Bu'n rhaid iddi ei gael allan o'r eiddo ar ei phen ei hun er gwaethaf ei hofn amlwg.
Cafodd Davenport, sydd heb gartref sefydlog, ei arestio yng nghyfeiriad cydymaith iddo lle daethpwyd o hyd i swm sylweddol o eiddo yr oedd modd ei adnabod fel eiddo a gafodd ei ddwyn oddi ar bob un o'i ddioddefwyr. Cyfaddefodd i bum achos o fwrgleriaeth yn ddiweddarach.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 20 Rhagfyr, i bum mlynedd yn y carchar, a bydd yn rhaid iddo fwrw'r ddedfryd lawn.
Da iawn wir i dditectifs Tonysguboriau. Rydym yn gobeithio bod ein hymrwymiad i gadw preswylwyr sy'n agored i niwed yn ddiogel yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi.
Os byddwch am roi gwybod am ymddygiad amheus yn eich cymunedau, rhowch wybod i ni a byddwn yn gweithredu.