Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn wreiddiol, gwadodd Huw Davies, 32, o Rydyfelin, saith achos o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn ond, wrth i dystiolaeth gael ei darganfod yn ystod yr ymchwiliad, newidiodd ei ble.
Ar 14 Tachwedd, 2021, rhoddodd y dioddefwr wybod i'r heddlu am achos o gam-drin rhywiol hanesyddol.
Dechreuodd yr achos o feithrin perthynas amhriodol a'r gamdriniaeth rywiol pan oedd y dioddefwr yn 13 oed, gan fynd yn eu blaen am sawl blwyddyn.
Cymerodd Davies fantais o'r dioddefwr agored i niwed a dylanwadu ar ei theimladau er mwyn gwneud iddi gredu bod eu perthynas yn un normal.
Dim ond wrth wylio rhaglen ddogfen am Jeffrey Epstein ar Netflix y gwnaeth y dioddefwr sylwi ei bod yn cael ei cham-drin yn rhywiol a bod Davies yn meithrin perthynas amhriodol â hi. Aeth ymlaen i roi gwybod i'r heddlu am yr achos o gam-drin hanesyddol.
Er nad oedd gan y ditectifs lawer o dystiolaeth i gefnogi adroddiad y dioddefwr ar y dechrau, datblygodd yr ymchwiliad wedi i'r dioddefwr ddod o hyd i hen ffôn symudol a oedd yn cynnwys tystiolaeth anorchfygol i gefnogi ei hadroddiad.
Yn y pen draw, plediodd Davies yn euog i saith achos o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn.
Ddydd Llun, 9 Ionawr, dedfrydwyd Davies i chwe blynedd a naw mis o garchar yn Llys y Goron Caerdydd. Cafodd hefyd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes a rhoddwyd pum mlynedd o orchymyn atal iddo.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sally Kings, arweinydd yr achos:
“Bu'r dioddefwyr ar daith hir ond mae wedi dangos gwytnwch a dewrder rhyfeddol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddi fod cyfiawnder wedi cael ei weinyddu o'r diwedd.”
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr troseddau rhywiol a byddem yn annog pob dioddefwr; ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Am help a chymorth, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/