Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwahoddiad i fenywod a merched ym Mhen-y-bont ar Ogwr fynychu dosbarthiadau hunanamddiffyn am ddim i wella hunanhyder a theimlad o ddiogelwch personol.
Rydym wedi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu dosbarthiadau am ddim, gyda'r nod o addysgu sgiliau hunanamddiffyn sylfaenol i gannoedd o fenywod a merched ledled Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd 300 o leoedd ar gael mewn nifer o sesiynau a gynhelir ar nos Fawrth a nos Iau, 6-8pm, drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth.
Bydd y sesiynau wedi eu lleoli yng Nghanolfan Hamdden Halo Pen-y-bont ar Ogwr a chânt eu cynnal gan arbenigwr hunanamddiffyn sydd wedi cynllunio sesiwn syml ond effeithiol ar ymwybyddiaeth sefyllfaol, gostegu gwrthdaro a hunanamddiffyn.
Dywedodd yr Arolygydd Diogelwch Cymunedol, Mike Rudall:
“Er mai bach iawn yw'r siawns o ddioddef trosedd, gwyddom fod troseddau penodol yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.
“Fel heddlu, rydym yn parhau i wneud cynnydd wrth fynd ati'n ddiflino i fynd ar drywydd cyflawnwyr y troseddau hyn a gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu'r rheini sydd mewn perygl, ond rydym am wneud mwy.
"Rydym ni'n cydnabod y gall menywod a merched deimlo'n fregus ac yn anniogel ar adegau.Ein gobaith yw y bydd y dosbarthiadau hyn yn apelio atynt gan rannu gwybodaeth a sgiliau sylfaenol i leihau eu pryderon."
Ariennir y fenter gan y Swyddfa Gartref dan y cynllun ‘Strydoedd Mwy Diogel’, ar ôl cais llwyddiannus gan Heddlu De Cymru a'n Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Gofynion ac amodau'r ymgeisydd:
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly trefnwch eich sesiwn yn gynnar er mwyn osgoi siom.
Bydd y sesiynau'n rhad ac am ddim.
I archebu eich lle, ewch i: Tocynnau Hunanamddiffyn i Fenywod a Merched sy'n byw yn Ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Dyddiadau Amrywiol | Eventbrite