Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:06 20/01/2023
Mae menyw, 35 oed, wedi cael ei charcharu am 15 mlynedd a chwe mis ar ôl iddi bledio'n euog i ddynladdiad Steven Davies ar sail cyfrifoldeb lleiedig.
Dedfrydwyd Carrie McGuinness, o Ynys Close, Rhydyfelin, yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Dydd Gwener 20 Ionawr).
Ar 15 Mehefin llynedd, cafodd Heddlu De Cymru alwad gan gymydog yn poeni am les Steven, 39 oed. Aeth swyddogion i'r cyfeiriad a daethpwyd o hyd i gorff Steven.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Lianne Rees, o Uned Troseddau Mawr Heddlu De Cymru:
"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir a thrallodus i deulu Davies ac mae fy nghydymdeimlad dwysaf gyda nhw.
"Er mod i'n cydnabod na fydd canlyniad heddiw yn dod â Steven yn ôl, rwy'n gobeithio bydd y ddedfryd yma'n dod â'r achos i ben iddynt ac y gallent symud ymlaen gyda'u bywydau."