Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 10 Mai 2022, roedd dyn yn danfon soffas yn ardal Rhydyfelin pan ddaeth menyw at y fan yn gofyn i'r gyrrwr a oedd angen cyfarwyddiadau arno. Agorodd y fenyw'r drws ar ochr y teithiwr, dringo i mewn a cheisio cymryd y bag a oedd ynghlwm wrth y sedd.
Yna, agorodd grŵp o ddynion y drws ar ochr y gyrrwr, un â morthwyl yn ei law, un yn dal sgriwdreifer, ac un arall â chyllell sombi, gan fygwth y gyrrwr ac ymosod arno.
Gwnaethant fynnu bod y gyrrwr yn trosglwyddo arian iddynt, a mynd ag eitemau o'r fan.
Cafodd y gyrrwr ei daro sawl gwaith ar ei glun a chafodd anaf clwyfus ar ei law.
Cafodd pedwar person eu dedfrydu ddoe (dydd Mawrth 17 Ionawr) yn Llys y Goron Caerdydd am nifer o droseddau:
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jack Harris:
"Roedd hwn yn ymosodiad hollol ddireswm ar yrrwr yn gwneud ei swydd.
"Diolch i'r deunydd teledu cylch cyfyng a'r ymholiadau fforensig a wnaed gan dditectifs, roeddem wedi gallu paratoi achos cryf.
"Maen nhw i gyd yn haeddu bod yn y carchar ac rwy'n falch ein bod wedi gallu sicrhau cyfiawnder i'r dioddefwr."