Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwadodd Jay Edwards, 31, o Fracla, Pen-y-bont ar Ogwr, saith achos o ymosodiadau rhywiol yn erbyn plant ac un achos o herwgydio plentyn ond fe'i cafwyd yn euog.
Datgelodd y dioddefwr dewr, a oedd yn 15 oed ar y pryd, beth ddigwyddodd i aelod o'i deulu a gysylltodd â'r heddlu.
Cafodd Edwards ei arestio, ei gyfweld a'i ryddhau ar fechnïaeth. Un o'i amodau mechnïaeth oedd peidio â chysylltu â'r dioddefwr, ond penderfynodd anwybyddu hynny a chysylltu â'r dioddefwr a threfnu i'w gyfarfod.
Cafodd Edwards ei arestio, a'i gyfweld eto a'i gadw yn y ddalfa.
Yn ystod yr ymchwiliad daeth ditectifs o hyd i dystiolaeth ar ffôn symudol ac adroddiadau gan dystion, a gefnogodd honiadau'r dioddefwr.
Fis diwethaf, cafodd Edwards ei ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar a'i roi ar y gofrestr troseddau rhyw am oes a derbyniodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol, yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Holly Isaac, arweinydd yr achos:
"Mae wedi bod yn ddewr iawn wrth siarad am ei weithredoedd ffiaidd.
“Hoffwn ei chanmol nid yn unig am roi gwybod y cam-drin rhywiol a ddioddefodd, ond am barhau i weithio gyda ni drwy gydol yr ymchwiliad hefyd.
“Nid ydym yn diystyru pa mor anodd ydyw i ddioddefwyr gysylltu â'r heddlu am drais pan mae'r unigolyn sy'n gyfrifol naill ai mewn safle o ymddiriedaeth neu mewn helynt â gweithwyr proffesiynol. Cofiwch ein bod ni yma a byddwn yn gwrando.
“Rwy'n gobeithio y bydd gwybod y bydd y dyn hwn yn y carchar am flynyddoedd yn tawelu meddwl y dioddefwr ac yn rhoi cyfle iddi ddechrau ailadeiladu ei bywyd."
Am help a chymorth, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/