Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn 2021, daethpwyd o hyd i ferch 15 oed a oedd ar goll o'r Almaen mewn cyfeiriad yn Nhrefforest lle roedd Amit Sethi, 43 oed, yn byw.
Darganfyddodd ditectifs fod Sethi wedi datblygu perthynas ar-lein â'r ferch ac wedi gwneud iddi gredu bod gan y pâr berthynas normal. Roedd Sethi yn ymwybodol o sefyllfa fregus y ferch a pharhaodd â'r berthynas ar-lein cyn talu iddi deithio i'r DU.
Cafodd Sethi ei arestio, ei gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa. Cafodd y ferch ei diogelu a'i dychwelyd i'r Almaen.
Cafodd Sethi ei gyhuddo o fasnachu mewn pobl, cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn a gwneud i blentyn gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol. I ddechrau, gwadodd yr holl droseddau ond newidiodd ei ble yn y llys ar gyfer y drosedd ar-lein yn unig.
Yr wythnos diwethaf yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Sethi ei garcharu am 14 mlynedd a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes, a chafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol penagored hefyd.
Dywedodd y barnwr a ddedfrydodd Sethi nad oedd wedi dangos “unrhyw edifeirwch gwirioneddol na mewnwelediad i'r hyn a wnaeth a'i fod yn droseddwr rhyw diedifar.” Dywedwyd hefyd ei fod yn “rheolaethol” ac yn “ystrywgar” a'i fod wedi cael ei sbarduno gan yr awydd i gamfanteisio'n rhywiol ar y ferch.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Laura Jones:
“Gweithiodd y Ditectif Gwnstabl Stacey Vincent, y swyddog a arweiniodd yr achos, yn ddiflino yn ystod yr ymchwiliad cymhleth hwn gan wynebu llawer o rwystrau fel delio â heddlu traws-sirol, asiantaethau partner tramor a meithrin cydberthnasau ag awdurdodau yn yr Almaen er mwyn datblygu'r ymchwiliad a chasglu'r dystiolaeth yr oedd ei hangen ar gyfer yr achos hwn.
“ Diolch i benderfynoldeb DC Vincent a'r tîm, cafodd Sethi ei ddwyn o flaen ei well a rhoddwyd dedfryd hir o garchar iddo.”
Am help a chymorth, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/