Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:40 04/01/2023
Ym mis Gorffennaf, cafodd swyddogion eu galw ar ôl adroddiadau o ddyn yn ymosod ar fenyw a oedd yn cael trafferth anadlu.
Cafodd Kieran Hemsley, 32 oed, o Borthcawl, ei arestio ac wedyn ei gyhuddo o drais domestig a niwed corfforol difrifol a thorri ei orchymyn atal a roddwyd ar waith i ddiogelu ei gyn-bartner.
Yn ystod yr ymosodiad, dyrnodd Hemsley ei bartner yn ei phen a'i chicio, gan dyllu ei hysgyfaint, a arweiniodd at nifer o ddiwrnodau yn yr ysbyty i'r ddioddefwraig.
Cafodd ei remandio a phlediodd yn ddieuog.
Gwnaeth rheithgor ei gael yn euog yn ystod y treial a dedfrydwyd Hemsley i wyth mlynedd o garchar a rhoddwyd gorchymyn atal digyfyngiad iddo yn Llys y Goron Caerdydd ar 8 Rhagfyr.
Mae'r Ditectif Gwnstabl Lloyd Williams, a oedd yng ngofal yr achos, wedi canmol dewrder y ddioddefwraig.
Dywedodd:
“Mae Kieran Hemsley yn ddyn peryglus a dorrodd ei orchymyn atal ac a gurodd ei bartner ei hun yn ddidrugaredd.
“Mae'n cymryd cryn dipyn o gryfder i siarad yn erbyn eich ymosodwr ac rwy'n llawn clod am y ddioddefwraig ddewr. Gwnaeth hi'r peth iawn ac mae ei dewrder wedi rhoi dyn peryglus dan glo.
“Ein neges ni i unrhyw un a allai fod dioddef yn dawel yw dod atom a siarad â ni. Rydym yma i chi.”
🗪 Sgwrs Fyw (9am-4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bostio [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.