Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:30 28/01/2023
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Jones:
“Galwyd ar Heddlu De Cymru am tua 5pm ddoe (Dydd Gwener 27 Ionawr) i adroddiadau o ymosodiad ar West Close, Butetown.
“Aeth swyddogion i'r ardal a dod o hyd i ddyn 22 mlwydd oed a oedd wedi cael ei drywanu.
“Aethpwyd â dioddefwr i'r ysbyty lle credwyd nad oedd ei gyflwr yn peryglu bywyd.
“Mae'r ymholiadau i gadarnhau amgylchiadau'r digwyddiad yn llawn yn parhau.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300028609.”
🗪Sgwrs Fyw (9am-4pm, Dydd Llun-Dydd Gwener) https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Er nad yw troseddau'n ymwneud â chyllyll yn rhan o fywyd beunyddiol yn Ne Cymru, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu i atal problem rhag codi.
Ein nod, drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, yw addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i rieni, athrawon a grwpiau cymunedol wneud hyn.
I gael gwybod mwy ewch i https://www.nottheone.co.uk/cy/