Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn mewn cyflwr difrifol wael yn dilyn ymosodiad yn ardal Hafod yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Bont ger Tafarn y Villers Arms tua 6.45pm nos Sadwrn, 21 Hydref – yr un diwrnod a gêm bêl-droed Dinas Abertawe yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm Swansea.com.
Ymosodwyd ar ddyn 26 oed ar y stryd gan ddyn anhysbys a oedd yn rhan o grŵp mwy o ddynion.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans, o Heddlu De Cymru: "Gwrthododd y dioddefwr gael sylw meddygol ar y pryd yn Abertawe ac aeth adref i Firmingham.
"Yn anffodus, aeth yn wael iawn yn hwyrach, cwympodd, a chafodd ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol wael.
"Mae ymholiadau helaeth yn parhau i ganfod yr unigolyn sydd dan amheuaeth a’r grŵp yr oedd gyda nhw, ond gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r Heddlu."
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2300358686.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.