Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae beiciwr a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ddydd Iau 21 Medi ar Ffordd Pen-y-Wal, Pontypridd, wedi cael ei enw fel John Symmonds, 92 oed o Graigwen, Pontypridd.
Mae merched John Symmonds wedi talu'r deyrnged ganlynol:
“Bydd y ddwy ohonom a'r teulu cyfan, yn ogystal â'r nifer mawr o ffrindiau a wnaeth drwy gydol ei fywyd, yn colli dad yn fawr.
Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth ac mae'r holl eiriau caredig rydym wedi'u derbyn yn gysur mawr i ni.
Hoffem ddiolch i'r holl wasanaethau brys a geisiodd helpu dad ar safle'r gwrthdrawiad, ond hoffem ddiolch yn benodol i staff Ward 8 yn Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr am eu gofal a'u tosturi.
Gofynnwn nawr i bobl barchu ein preifatrwydd a rhoi amser a chyfle i ni alaru. Byddwn yn cyhoeddi dyddiad/amser ar gyfer yr angladd maes o law, unwaith y cawn wybod.
Nos da dad. Gorffwys mewn hedd.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio i'r rhai a welodd y gwrthdrawiad a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2300320217.