Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yr wythnos hon (14 – 21 Hydref). Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sydd wedi bod yn destun trais, anwybodaeth neu ragfarn rhywun arall, i roi gwybod am yr achos.
Gall rhywun fod yn ddioddefwr o ddigwyddiad casineb mewn sawl gwahanol ffurf gan gynnwys ymosodiad corfforol, cam-drin geiriol, bwlio neu aflonyddu ar-lein, a llawer o droseddau eraill. Bydd digwyddiad casineb yn dod yn drosedd casineb pan fydd trosedd wedi cael ei chyflawni o ganlyniad i elyniaeth o ragfarn ar eich anabledd, hil, crefydd, hunaniaeth drawsrywiol neu gyfeiriadedd rhywiol.
Mae'r heddlu wedi cael gwybod am 2,214 achos o droseddau casineb eleni hyd yma. Rydym wedi gweld gostyngiad bach yn y nifer o droseddau casineb a rhoddwyd gwybod amdanynt i Heddlu De Cymru yn y 12 mis diwethaf, sy'n golygu ei bod hi'n bwysicach nag erioed ein bod yn pwysleisio'r angen i roi gwybod am achosion o droseddau casineb pan fyddant yn digwydd.
Mae'r cynnydd, a welir mewn troseddau crefyddol neu drawsryweddol hefyd yn dangos i ni fod gan gymunedau fwy o hyder i roi gwybod a dod i siarad â ni. Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon am droseddau casineb i roi gwybod am yr achos, er mwyn atal yr heriau parhaus ynghylch troseddau casineb.
Bydd ein tîm o swyddogion troseddau casineb ymrwymedig o gwmpas yn ein cymunedau yr wythnos hon mewn gwahanol ddigwyddiadau yn yr ardal er mwyn annog pobl i roi gwybod am achosion o droseddau casineb a chodi ymwybyddiaeth ohonynt. Edrychwch ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am fanylion ar sut y gallwch siarad â nhw.
Meddai'r Uwch-arolygydd Jason Rees, sef Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Troseddau Casineb:
“Mae troseddau casineb yn flaenoriaeth i mi ac i bob un ohonom yn Ne Cymru. Mae'n droseddoldeb ffiaidd sy'n peri niwed i unigolion, i deuluoedd ac i gymunedau ehangach. Rydym yn gweithio'n galed i dargedu troseddwyr sy'n cyflawni trosedd casineb, a gyda chymorth asiantaethau partner, rydym yn gweithio'n galed i roi'r cymorth angenrheidiol i ddiogelu a thawelu meddyliau dioddefwyr.
“Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, mae'n bwysig atgoffa pawb am bwysigrwydd rhoi gwybod am achosion o droseddau casineb. Os ydych chi'n ddioddefwr achos o drosedd casineb, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni er mwyn i ni fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol a rhoi'r cymorth prodol i chi.
“Hoffwn annog y bobl sy'n dyst i achos o drosedd casineb yn eu cymunedau i roi gwybod am faterion hefyd er mwyn i ni allu bod yn rhagweithiol wrth ymdrin â'r drosedd hon cyn gynted â phosibl.”
I gael rhagor o wybodaeth am droseddau casineb a sut i roi gwybod, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/hate-crime/gwybodaeth/f1/troseddau-casineb/