Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eleni, ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu, rydym yn ystyried y rôl hanfodol y mae Menywod Du wedi'i chwarae wrth lunio hanes ac yn dathlu eu cyflawniadau drwy rannu eu straeon.
“Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon, ac mae'n gyfle pwysig i fyfyrio ar gyflawniadau – a phrofiadau – pobl Dduon. Eleni, y thema yw 'Teyrnged i'n Chwiorydd', a thrwy gydol y mis, byddwn yn arddangos rhai o'r rolau hanfodol y mae menywod Duon wedi'u chwarae, a'r cyfraniad sylweddol y maent wedi ei wneud, ac y maent yn parhau i'w wneud, i Heddlu De Cymru a'n cymunedau.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i ddenu, recriwtio, a chefnogi unigolion talentog sy'n cynrychioli'r boblogaeth amrywiol yn Ne Cymru. Rwy'n annog unrhyw un o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i fanteisio ar ein cyfleoedd recriwtio drwy ein tîm Gweithredu Cadarnhaol ymrwymedig.
“Rydym wedi gwneud llawer o waith ac wedi gwneud cynnydd mawr, ond rwy'n cydnabod bod mwy y gallwn ei wneud o hyd i sicrhau ein bod yn wir yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.” Y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan.
Ymunodd Grace â Heddlu De Cymru (HDC) chwe blynedd yn ôl ac mae'n gweithio fel Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd ar hyn o bryd.
“Cefais fy ngeni a'm magu yn Kenya yn Nwyrain Affrica ac rwyf wedi byw yn Ne Cymru ers dros 10 mlynedd. Rwy'n siarad tair iaith, sef Kiswahili, Saesneg a Kikuyu, fy mamiaith. Rwyf hefyd yn siarad Ffrangeg llafar ac wrthi'n dysgu Cymraeg.
“Mae fy rôl yn cynnwys derbyn adroddiadau gan y cyhoedd a'u hasesu gan ddefnyddio model gwneud penderfyniadau HDC. Pan fydd y broses asesu wedi'i chwblhau, rhoddir gwybod i'r unigolyn sy'n nodi'r broblem sut y bydd HDC yn ymdrin â'i adroddiad. Yn ogystal â hynny, rwyf hefyd yn rheoli sianeli radio'r heddlu,” dywed Grace.
Ymunodd Grace â HDC fel swyddog trin galwadau ac ar ôl dwy flynedd yn y rôl honno dechreuodd ymgymryd â hyfforddiant i ddod yn swyddog neilltuo swyddogion.
“Fel llawer o bobl, rwy'n hoff o raglenni llofruddiaethau dirgelwch ac rwyf wedi gwylio sawl rhaglen dditectif dros y blynyddoedd. Er hynny, doeddwn i yn meddwl bod ymuno â'r heddlu yn addas i mi. Cyd-ddigwyddiad hapus oedd ymuno â HDC.”
“Daeth tîm recriwtio HDC i'r sefydliad lle roeddwn yn gwirfoddoli, a rhannodd y staff fy manylion (ac anghofio rhoi gwybod i mi eu bod wedi gwneud hynny!). Cefais neges e-bost yn ddiweddarach gyda swyddi gwag yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a'r swydd ddisgrifiad ar gyfer y swydd Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau oedd yn apelio ataf fwyaf.
“Roeddwn gen i fy amheuon am y sgiliau, y math o berson a'r profiad oedd eu hangen ar gyfer y rôl a ph'un a fyddwn i'n addas ar ei chyfer, ond es amdani beth bynnag. O edrych yn ôl, rwy'n falch na chafodd fy amheuon y gorau arnaf.
“Rwyf wedi dysgu llawer, nid yn unig am blismona, ond am asiantaethau partner eraill hefyd. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi dysgu sgiliau newydd, ac yn bwysicach na hynny, rwy'n dal i fwynhau fy swydd.
"Rwyf hefyd yn gweithio gyda thîm gwych o bobl," ychwanegodd Grace, "fyddwn i byth wedi cael y cyfle i ryngweithio â'r rhan fwyaf ohonyn nhw oni bai am y swydd. Rydych chi'n cael cyfle i wneud llawer o waith da a gweithio gyda phobl arbennig. I unrhyw un sy'n ystyried ymuno, byddwn i'n dweud wrtho am fynd amdani.
“Pan nad wyf yn gweithio, rwy'n hoff o arddio. Fy mhrosiect presennol yw ceisio cadw fy afocados, dwy goeden ffrwyth ciwi a phomgranadau yn fyw er mwyn cael ffrwythau.”