Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynghorir gyrwyr faniau a gyrwyr danfon nwyddau o amgylch Caerdydd i fod yn wyliadwrus yn dilyn y digwyddiad hwn a digwyddiadau tebyg diweddar.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos o ddwyn fan waith yn Gabalfa, Caerdydd.
Am tua 12.35pm heddiw (dydd Mawrth, 31 Hydref), rhoddwyd gwybod i ni fod fan wedi'i dwyn gan yrrwr ar Heol y Gogledd, ger Cyfnewidfa Gabalfa.
Daethpwyd o hyd i'r fan yn Heol Ty'n y Parc, Rhiwbeina, o fewn awr iddi gael ei dwyn.
Yn ffodus, ni chafodd unrhyw un ei anafu, ac mae ymholiadau yn parhau i arestio'r unigolyn dan amheuaeth.
Cynghorir gyrwyr faniau a gyrwyr danfon nwyddau o amgylch Caerdydd i fod yn wyliadwrus yn dilyn y digwyddiad hwn a digwyddiadau tebyg diweddar.
Gofynnir i'r rhai a welodd y digwyddiad yn Gabalfa neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2300370985.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.