Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’n bleser gan Heddlu De Cymru gynnal Cynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du 2023 yng Nghaerdydd. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ac roedd yn anrhydedd i Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan annerch y gynhadledd fel un o’r prif siaradwyr.
Siaradodd am yr her o ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol i’r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu yma yn Ne Cymru. Gwasanaeth balch, proffesiynol a chadarnhaol sydd yn amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, yn cefnogi dioddefwyr ac yn dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
Aeth i'r afael hefyd â mater Hiliaeth Sefydliadol, term y mae'n credu sy'n berthnasol i Heddlu De Cymru. Y realiti a wynebwn yw bod rhai cymunedau yn ymddiried llai ynom oherwydd nad ydynt yn meddwl ein bod yn eu cynrychioli; nid ydynt yn meddwl ein bod ni yno i'w helpu; nid ydynt yn meddwl y byddwn yn eu hamddiffyn nac yn sicrhau cyfiawnder iddynt.
Yn ei gasgliad siaradodd am sut mae Heddlu De Cymru yn ailddyblu ymdrechion i ennill ymddiriedaeth ein holl gymunedau.
Gallwch ddarllen ei araith lawn yma:
Bore da. Gan fod Andy eisoes wedi eich croesawu i Gaerdydd a De Cymru, hoffwn estyn croeso hefyd a dweud Croeso i Gaerdydd ar ran Heddlu De Cymru. Mae'n anrhydedd ac yn fraint i mi gael eich annerch y bore ma, yn dilyn yr anerchiad pryfoclyd, heriol, pwysig rydym newydd ei glywed gan y Farwnes Casey, a fydd yn bendant wedi rhoi rhywbeth i mi ac i bawb arall gnoi cil arno. Gyda'ch caniatâd, hoffwn hoelio fy sylwadau heddiw ar yr heriau parhaus o ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol i bob cymuned rydym yn ei gwasanaethu yma yn Ne Cymru. Mae'n wasanaeth balch, proffesiynol a chadarnhaol sy'n diogelu pobl fregus, yn cefnogi dioddefwyr ac yn dwyn troseddwyr o flaen eu gwell bob dydd. Byddaf yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth – wna i ddim ymgais i gyfeirio na siarad o safbwynt egwyddorion – byddaf yn siarad o safbwynt y gwasanaeth a ddarparwn i'r cyhoedd rydym yn ei wasanaethu. Rwyf nawr yn fy nhrydedd flwyddyn fel Prif Gwnstabl ac yn falch a breintiedig dros ben o gael arwain llu o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n ddiflino i helpu i gadw De Cymru'n ddiogel. Nid yw darparu gwasanaeth plismona i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu erioed wedi bod mor gymhleth ag ydyw heddiw, wrth i ni wynebu heriau newydd, sy'n gyson esblygu. Mae'r heriau hyn yn gofyn i ni gydlynu, cydweithredu a chyfathrebu mewn ffordd wahanol iawn i'r hyn rydym wedi'i wneud erioed, er mwyn i ni gyflawni ein gweledigaeth sefydliadol o fod y gorau am ddeall ac ymateb i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fodd bynnag, mae un mater pwysig wedi bod yn her ers i Peel sefydlu ei egwyddorion plismona yn 1829. Her benodol yw hon, a gallai llawer ddadlau mai dyma'r her bwysicaf oll, sef cael pobl i ymddiried ynom. Heb ymddiriedaeth y cyhoedd, delfryd na ellir ei chyrraedd yw'r egwyddor o blismona drwy gydsyniad. Yn ystod fy nghyfnod fel Prif Gwnstabl, rwyf wedi dweud yn gyson y dylai pob un ohonom boeni nad yw pob un o'n cymunedau yn ymddiried ynom. Rwyf wedi myfyrio ar sut y byddwn i'n teimlo pe bawn i'n aelod o gymuned nad oedd yn ymddiried yn yr heddlu, sef yr union bobl a ddylai fod yno i'n diogelu ni. Sut byddwn i'n teimlo pe bai fy mab neu ferch wedi dioddef trosedd ac wrth i mi godi'r ffôn i alw am help a cheisio cael cyfiawnder, yn meddwl ddwywaith am wneud yr alwad neu efallai ddim yn gwneud yr alwad o gwbl. Mae'n rhywbeth anodd i mi ei ddeall ond rwy'n gwybod ei fod yn wir ymhlith rhai cymunedau. Fel y gŵyr pob un ohonom, nid yw pobl yn cael dewis eu Gwasanaeth Heddlu; maen nhw'n cael y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu iddynt, p'un a ydynt yn ei hoffi ai peidio. Yr unig ddewis y maent yn ei wneud yw p'un a fyddant yn ymgysylltu â ni ai peidio, p'un a fyddant yn ein ffonio ni ai peidio, p'un a fyddant yn ein helpu ni ai peidio. Y gwir amdani yw bod rhai cymunedau'n ymddiried llai ynom am nad ydynt o'r farn ein bod yn eu cynrychioli; dydyn nhw ddim yn credu ein bod yno i'w helpu; dydyn nhw ddim yn credu y byddwn ni'n eu diogelu nac yn cael cyfiawnder iddynt. Ac wrth imi sefyll yma heddiw, y realiti i ni yw nad oes llawer o'n cymunedau lleiafrifol yn ymddiried ynom, a'r cymunedau pobl dduon sy'n ymddiried leiaf ynom. Ac er y gallai fod yn demtasiwn i gwestiynu ac astudio a ddylid cyfiawnhau'r diffyg ymddiriedaeth neu a yw'n gyfiawn trwy dystiolaeth ac ystadegau, ein problem ni yw datrys y diffyg ymddiriedaeth hwn. Mae'n fy nghadw i'n effro gyda'r nos, fel y dylai, ac mae'n glir i mi y dylem wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin ymddiriedaeth a magu hyder y bobl rydym yn eu gwasanaethu; mae'r diffyg dewis sydd ganddynt yn gosod y cyfrifoldeb am yr her hon yn gadarn ar ein hysgwyddau ni, ac ar fy ysgwyddau i. Rydym wedi gwneud cynnydd da ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi bod yn faes blaenoriaeth i mi ym mhob un o'm cynlluniau cyflawni a byddaf yn parhau i'w gynnwys ym mhob cynllun cyflawni y byddaf yn ei ddatblygu yn y dyfodol. Mae'n hollbwysig mai dyma yw'r achos, gan fod gennym gymunedau sefydledig, sy'n falch o'u hamrywiaeth yma yn Ne Cymru ac mae'n bwysig ein bod ni'n deall y dreftadaeth hon, yn gwrando arni ac yn ei dathlu. Rydym hefyd yn cydnabod yn falch ein treftadaeth ni fel sefydliad ac yn dathlu'r arloeswyr sydd wedi'n rhagflaenu. Yn wir, caf gyfle i wneud hyn wythnos nesaf pan fyddaf yn cyflwyno gwobr flynyddol Derrick Hassan am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn seremoni wobrwyo flynyddol ein heddlu. Roedd llawer ohonoch yn adnabod Derrick, sef ein swyddog heddlu du cyntaf a fu farw ym mis Mai 2022. Ymunodd Derrick â Heddlu De Cymru yn 1972 ac yn ystod ei wasanaeth, helpodd i sefydlu Cymdeithas yr Heddlu Du, De Cymru. Gwnaeth Derrick ymddeol yn 2002 ac yn 2003, cafodd ganmoliaeth gan Gymdeithas yr Heddlu Du am ei waith diflino ac arloesol. Roeddem mor falch o weld Ceri, ei wraig, yn ymuno â ni yn ein digwyddiad gwobrwyo blynyddol yn 2022 er mwyn cyflwyno'r wobr a fydd yn dwyn ei enw am byth. Roedd Derrick yn arloeswr; dylai ei ddewrder fod yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Mae'r pethau hyn yn gadarnhaol ac yn adlewyrchu'r pwysigrwydd a roddwn ar gydraddoldeb, ac i'r bobl hynny sydd â diddordeb mewn ffigurau, mae ein niferoedd recriwtio, cadw a dilyniant ar gyfer ymgeiswyr du a lleiafrifoedd ethnig yn symud i'r cyfeiriad cywir. Ond os ydw i'n onest, mae'r cynnydd yn rhy araf o hyd ac rydym yn parhau i ddelio â heriau hirsefydlog diffyg ymddiriedaeth, amheuaeth ac weithiau teimladau gelyniaethus gan rai cymunedau, yn enwedig cymunedau duon. Mae'r teimladau hyn yn ddealladwy, ac maent yn treiddio i gymunedau ar hyd cenedlaethau oherwydd rhai enghreifftiau hanesyddol ac enghreifftiau eraill mwy diweddar o wahaniaethu a chamdriniaeth yn sgil rhyngweithio ag awdurdodau, sy'n cynnwys ein gwasanaeth ni. Mae'r boen a'r trawma y mae hyn wedi'u hachosi ac yn parhau i achosi, yn taflu cysgod hir o ddiffyg ymddiriedaeth y mae'n anodd ei fesur. Credaf yn ddiffuant nad oes gennym unrhyw gyfle o fynd i'r afael â'r diffyg ymddiriedaeth a hyder ymhlith ein cymunedau duon oni bai, a hyd nes y byddwn yn cydnabod bod gennym ddiffyg. Yn ogystal, does fawr ddim gobaith o ddatrys y broblem hon os na fyddwn yn cydnabod yn llwyr ei fod yn bodoli yn y lle cyntaf. Gan gadw hyn mewn cof, byddaf yn troi fy sylw at y term ‘Hiliaeth Sefydliadol’. Dydw i ddim yn sôn am y mater hwn ar ran plismona yn ei gyfanrwydd, ond yn fy rôl arwain i yma yn Heddlu De Cymru. Rwy'n deall hefyd bod safbwyntiau gwahanol ar y term hwn ym mhob rhan o'r maes plismona, ac mae'n wir ei fod wedi tueddu i rannu'r arweinwyr o ran ystyr y term mewn gwirionedd. Rwy'n cydnabod hefyd y bydd yna rai sydd â barn wahanol i mi, ac rwy'n eu derbyn ac yn eu parchu. Dyma ddiffiniad Syr William Macpherson o'r term Hiliaeth Sefydliadol yn ei adroddiad ar Ymchwiliad Stephen Lawrence 24 o flynyddoedd yn ôl: “The collective failure of an organisation to provide an appropriate and professional service to people because of their colour, culture, or ethnic origin. It can be seen or detected in processes, attitudes and behaviour which amount to discrimination through unwitting prejudice, ignorance, thoughtlessness and racist stereotyping which disadvantage minority ethnic people.” Yn eich adolygiad diweddaraf, gwnaethoch chi, y Farwnes Casey, osod eich pedwar prawf o Hiliaeth Sefydliadol mewn ymgais i helpu i ddiffinio'r term ymhellach. Os gadewch i mi aralleirio: PRAWF 1. Mae gan y sefydliad bobl sydd â barnau ac agweddau hiliol. PRAWF 2. Mae hiliaeth yn digwydd, ond caiff ei hanwybyddu, ei derbyn, ac ni chaiff ei hadrodd. Ni fydd llawer yn credu ei fod yn werth adrodd arno. PRAWF 3. Caiff hiliaeth a rhagfarn eu hatgyfnerthu drwy ein systemau. PRAWF 4. Teimla ein cymunedau duon na chânt eu diogelu'n ddigonol ac y cânt eu gorblismona Rwyf wedi myfyrio ar y profion hyn; Rwyf wedi siarad â'm swyddogion a'm staff, wedi ymgysylltu ag aelodau o'n cymunedau, ac wedi edrych ar ein ffordd o ddarparu'r gwasanaeth. Ar sail y diffiniadau hyn a'm sgyrsiau, fy marn i yw bod y term hiliaeth sefydliadol yn gymwys i Heddlu De Cymru. Mae'r holl gamau rydym wedi'u rhoi ar waith cyn ac yn ystod fy amser gyda Heddlu De Cymru, yr ymdrech gyson rydym wedi'i rhoi i gydraddoldeb yn ein gweithle a'r holl sylw rydym wedi'i roi i amrywiaeth a chynhwysiant yn golygu ein bod ni wedi cydnabod bod gennym broblem, ac rydym yn cydnabod bod gennym lawer mwy i'w wneud. Mae gennym bobl ag agweddau hiliol yn Heddlu De Cymru. Rwyf wedi clywed am lawer o brofiadau byw o swyddogion du a lleiafrifoedd ethnig eraill i ddod i unrhyw gasgliad arall. Mae rhywfaint o hiliaeth yn agored ac yn ddigywilydd. Lle rydym yn dod i wybod amdano, rwyf wedi bod yn glir y dylai ein hymateb fod yn gyflym a digyfaddawd. Mae rhywfaint ohono'n llawer mwy cynnil ac o dan yr wyneb, ond os caiff pobl eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu hil, boed hynny'n ymwybodol neu'n ddiarwybod, mae'n amlwg mai hiliaeth ydyw. Mae'n ffaith bod llawer o swyddogion ac aelodau o staff du a lleiafrifoedd ethnig yn profi hiliaeth yn y gwaith a chaiff ei anwybyddu a'i ddiystyru'n rheolaidd neu ni fydd yn cael ei drafod. Y peth mwyaf trist yn fy marn i yw nad oes llawer o gydweithwyr yn credu ei bod hi'n werth rhoi gwybod amdano gan na fydd dim byd yn cael ei wneud neu bydd yn gwaethygu eu sefyllfa. Rwyf wedi siarad â gormod o gydweithwyr presennol a hen gydweithwyr yng Nghymdeithas yr Heddlu Du yn Ne Cymru sydd â phrofiad byw o'r achosion o hiliaeth a'r gwahaniaethu hyn. Unwaith eto, i'r rhai sydd â diddordeb mewn ffigurau, gallaf gadarnhau'r hyn y mae llawer ohonoch eisoes yn ei wybod:
Ffeithiau yw'r rhain i gyd yn Ne Cymru. Maent yn ffeithiau hefyd sy'n adlewyrchu'r union ddiffiniadau o Hiliaeth Sefydliadol, boed hynny'n ddiffiniad Macpherson, y Farwnes Casey neu unrhyw ddiffiniad blaenllaw arall y dewiswch ei ddefnyddio. Mae ein cymunedau duon o'r farn nad ydynt yn cael eu diogelu'n ddigonol a'u bod yn cael eu gorblismona; ac mae ein data yn cadarnhau bod ganddynt bob hawl i gredu hynny. Sy'n dod â fi i'r cwestiwn pam rwyf yn credu ein bod eisoes wedi cydnabod hyn fel Heddlu De Cymru? Ein hymateb i'r cynnydd mewn ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau duon am anfantais a hiliaeth; ein hymateb i brotestiadau Mae Bywydau Du o Bwys; ein hymateb i gynrychiolaeth wael ymhlith cymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn Heddlu De Cymru; mae ein hymateb i benderfyniadau a chanlyniadau anghymesur i bobl dduon a'n hymateb i brofiadau ein gweithlu ein hunain yn awgrymu ein bod wedi cydnabod ein her a'n problem. Mae ein hymateb wedi bod yn aruthrol. Dyma amlinellu rhai o'n camau gweithredu a'n cynnydd, nid er mwyn awgrymu o gwbl ein bod wedi datrys yr heriau hyn, ond er mwyn dangos cymaint yw ein hymrwymiad i'r genhadaeth, credwn ei bod hi'n werth buddsoddi amser ac adnoddau i mewn i'n hymateb:
Gallwn i barhau. Mae'r enghreifftiau hyn o weithredu mewn ymateb uniongyrchol i'r broblem y gwyddom sydd gennym, ond fel yr amlinellwyd gennyf, nid ydym wedi'i gydnabod, ac yn bwysicach na hynny, nid ydym wedi'i gyfleu i'n cymunedau duon. Mae'n bwysig iawn i mi wneud y pwynt yma nad ydw i'n beirniadu fy swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn Heddlu De Cymru, sef y bobl wych sy'n gwneud pethau gwych bob dydd ac rwyf yn falch o'u harwain. Dydw i ddim ychwaith yn eu cyhuddo o ymddygiad gwrthodol neu hiliol ymwybodol neu bwrpasol tuag at y bobl maent yn eu diogelu, yn gweithio ac yn byw gyda nhw, ac er fy mod i'n gwybod bod hyn yn digwydd ar achlysuron prin yn fy sefydliad, rwy'n gwybod na fyddai'r mwyafrif helaeth yn breuddwydio ymddwyn fel hyn. Yn syml, rwy'n gwneud y pwynt bod yn rhaid i'n sefydliad gydnabod yr her hon. Pam? - oherwydd bod yn rhaid iddo feithrin ymddiriedaeth a magu hyder y bobl sy'n teimlo bod ein sefydliad wedi eu methu ac yn parhau i'w methu. Mae a wnelo â phob un ohonom sy'n rhan o Heddlu De Cymru, ni yw gwarcheidwaid presennol y dyletswyddau eithriadol o bwysig rydym yn eu cyflawni, mae a wnelo â'r sefydliad y mae pob un ohonom yn falch o fod yn rhan ohono ac a fydd yn bodoli ar ôl ein hoes ni. Fy mwriad yw darparu arweinyddiaeth glir ac amlwg, gan fynnu bod fy nghydweithwyr yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau ein bod yn goruchwylio cynnydd gwirioneddol ac amlwg. Does dim amheuaeth y byddwn yn cael ein beirniadu gan rai, ac mae'n bosibl y bydd rhai yn ceisio dehongli fy neges mewn ffordd sy'n gweddu i'w safbwyntiau personol. Pe bai'r gwaith yn hawdd, byddem wedi'i wneud flynyddoedd yn ôl a fyddwn i ddim yn eich annerch chi yma heddiw. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd wrth reswm, ond dim digon o bell ffordd i ennyn ymddiriedaeth pob cymuned rydym yn ei gwasanaethu. Felly, fel yr eglurais ar y dechrau, credaf nad oes gobaith i ni fynd i'r afael â'r diffyg ymddiriedaeth a hyder ymhlith ein cymunedau duon hyd nes i ni gydnabod bod gennym ddiffyg. Nawr, dydw i ddim yn rhy ddiniwed i gredu y bydd y datganiad rwyf wedi'i wneud heddiw yn datrys popeth, ond mae'n gam pwysig, ac yn garreg filltir bwysig ar daith rydym wedi bod arni ers nifer fawr o flynyddoedd. Mae angen i ni nawr ddyblu ein hymdrechion i ennill yr ymddiriedaeth honno sydd mor bwysig er mwyn i ni allu plismona'n effeithiol drwy gydsyniad. Rwyf yn ymrwymo'n bersonol i wneud popeth o fewn fy ngallu fel arweinydd i helpu i wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol. Fe ddywedaf hynny yn Gymraeg hefyd gan ei fod mor bwysig: Rwyf yn ymrwymo'n bersonol i wneud popeth o fewn fy ngallu fel arweinydd i helpu i wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol. Gydweithwyr, rwyf yn teimlo'n gadarnhaol am y dyfodol a'r ffordd rydym yn ymateb i'r heriau rydym yn eu hwynebu. Gyda'n gilydd yng Nghymru, o dan y cynllun Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, rydym wedi gwneud ymrwymiadau sy'n gyson â Chynllun Gweithredu ar Hil yr Heddlu a'n cynllun Gweithredu ar Hil ein hunain. Y mae'r cyfan yn cael ei hyrwyddo ac yn parhau i gael ei hyrwyddo gan ein Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Mr Alun Michael. O'i roi'n syml:
Os gallwn wneud hyn, bydd y cyhoedd, nad ydynt yn cael dewis eu Gwasanaeth Heddlu - yn ymgysylltu â ni, yn ein helpu ni, ac o weithio gyda'n gilydd, byddwn yn helpu i gadw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ddiogel, byddwn yn cefnogi dioddefwyr ac yn dwyn troseddwyr o flaen eu gwell. Naïf fyddai credu y gallwn ddileu hiliaeth yn llwyr yng Nghymru; ond gallwn ddechrau creu diwylliant lle na chaiff hiliaeth ei goddef ar unrhyw gyfrif a newid ein systemau a'n sefydliadau i ddechrau canslo hiliaeth. Bydd llwyddiant ein dull gweithredu yn dibynnu wrth gwrs ar wirio cynnydd yn barhaus a gwrando ar brofiadau byw ein cymunedau duon. Rydym am symud ymlaen drwy eu cynnwys mewn ffordd agored a gonest. O wneud hynny, does gen i ddim amheuaeth mai ni fydd y gorau am ddeall ac ymateb i'n cymunedau a gyda'n gilydd, byddwn yn helpu i gadw De Cymru yn ddiogel. Diolch am eich sylw caredig. Diolch yn fawr. |