Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gorchymyn gwasgaru, sydd wedi'i roi dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith mewn tair ardal yn Llanrhymni o 3pm heddiw (Dydd Gwener, 27 Hydref) tan 3am ddydd Sul, 29 Hydref.
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi aflonyddwch, codi ofn neu achosi trallod, neu'n debygol o'u hachosi, i adael yr ardal sydd wedi'i nodi ar y mapiau.
Bydd ganddynt hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y mae swyddogion yn amau sy'n cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn adroddiadau cynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am hyn i gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2300365953.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
E-bost [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng