Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dewrder, arloesedd, arweinyddiaeth, anhunanoldeb: dyma rai o'r rhinweddau a gafodd eu dathlu neithiwr ar ôl i #GwobrauTîmHDC ddychwelyd.
Gwnaeth y noson yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, gydnabod swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid a aeth y tu hwnt i'w dyletswydd i'r heddlu a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Yr enillwyr eleni – a ddewiswyd gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddau Alun Michael – oedd:
Gwobr Dysgwr y Flwyddyn | Penderfynodd PCSO Leanne Williams ddilyn ei breuddwyd o ymuno â Heddlu De Cymru, er gwaethaf iddi ddioddef strôc a oedd yn fygythiad i'w bywyd ac a achosodd iddi orfod ailddysgu sut i gerdded a siarad. |
Gwobr y Siryfiaeth i Swyddog Cymunedol | Rhingyll Natalie Reis, am ei gwaith hanfodol gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion yn Gabalfa, Caerdydd. Gweithio â phreswylwyr ac asiantaethau partner i adfywio ymddiriedaeth a hyder y gymuned. |
Gwobr y Filltir Ychwanegol i Wirfoddolwyr | Geoff Seymour, sydd wedi rhoi 15 mlynedd yn Cwnstabl Gwirfoddol ac arweinydd hyb Gwirfoddolwyr Ifanc yr Heddlu, gan feithrin gwerthoedd traddodiadol a gwasanaethu cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr ag angerdd heb ei ail. |
Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc yr Heddlu | Mia Bethell, y mae ei hangerdd ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid ac atal camfanteisio ar blant yn cael gwir effaith. Gyda "chalon PCSO", gwirfoddolodd Mia mwy na 400 awr o'i hamser yng Nghaerdydd yn ystod 2022. |
Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Bobl | DC Sarah Garland o Dîm Ymchwilio i Achosion o Dreisio Caerdydd, sydd wedi rhagori ar ei dyletswydd i gefnogi dioddefwyr, gan wella'r gwasanaeth a ddarperir yn barhaus a chefnogi cydweithwyr i wneud yr un peth. |
Gwobr Argraff | Hayley Marshall o'r adran Adnoddau Dynol, sydd wedi bod yn hanfodol wrth sefydlu rhaglen llesiant ariannol i gefnogi #TîmHDC; o arweiniad a chymorth i ddisgowntiau a chyflwyno Wagestream i sicrhau bod gan staff bŵer dros eu cyflog. |
Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Derrick Hassan | DS Adrian White sydd wedi addo i chwalui rhwystrau i roi gwybod am drais domestig gan grwpiau lleiafrifol a datblygu ffyrdd i unrhyw ddioddefwr roi gwybod i rywun bod angen cymorth arno. |
Gwobr Ymgysylltiad Eithriadol | PCSO Mike Davies, wedi gweithio i wella cysylltiadau â'r gymuned Teithwyr yng Nghaerdydd – gan leihau tensiynau, dod yn wyneb cyfarwydd y gellir ymddiried ynddo, a chyflwyno cyfleoedd fel digwyddiadau chwaraeon. |
Gwobr Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu y Flwyddyn | Hannah Lowe, sef "calon ac enaid tref Pontypridd" sy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â throseddau ac anrhefn ac sy'n rhan hanfodol o fentrau gan gynnwys Allgymorth Pontypridd, Halloween Pop Train a phrosiect paentio adeiladau. |
Gwobr Datrys Problemau yn Eithriadol mewn Partneriaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu | #TaffNPT, a fu’n hanfodol i ffurfio’r Prosiect Allgymorth amlasiantaeth i fynd i'r afael â digartrefedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol andwyol ym Mhontypridd. |
Gwobr Gwaith Tîm Heddlu De Cymru | Y tîm Recriwtio sy'n cynnwys Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Cyfathrebu Corfforaethol, Iechyd Galwedigaethol, Fetio a Theilwra i alluogi Heddlu De Cymru i recriwtio 451 o swyddogion ychwanegol erbyn mis Mawrth 2023. |
Gwobr Arweinyddiaeth Ragorol | PC Chris Howells, arweinydd tactegol ar gyfer Adnabod Dioddefwyr Trychinebau (ADT). Mae wedi gwneud llawer o waith ychwanegol i arwain cadre ADT yr heddlu a'r rhanbarth, gan sicrhau y gallant wneud un o'r swyddi plismona anoddaf. |
Gwobr Ymchwiliad y Flwyddyn | PC Bethan Harrison: diolch i benderfyniad di-ildio PC Harrison, mae ymchwiliad lleol i gludo cyffuriau wedi datblygu i fod yn ymgyrch fwy o lawer. |
Gwobr Dewrder Eithriadol | PC Alisha Pontin a Katie White a ymatebodd yn union fel y dylent i ddatrys digwyddiad anodd yn ddiogel, gan ddefnyddio gwn taser ar y dioddefwr er mwyn sicrhau diogelwch pawb dan sylw, er gwaethaf cael eu bygwth â chyllell. |
Gwobr Cyflawniad gydol Oes i Staff yr Heddlu | Jonathan Dunn, o'r Uned Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau, sydd wedi creu enw da sicr am ragoriaeth, proffesiynoldeb a dibynadwyedd mewn sawl rôl staff dros 33 o flynyddoedd. |
Police Officer Lifetime Achievement Award | Cyn-Dditectif Ringyll Neil White, a ddaeth yn adnabyddus am ei wybodaeth a'i brofiad fel Ymchwilydd Data Cyfathrebu yn ysgod ei yrfa o 30 o flynyddoedd. Gyda chanmoliaeth fawr, roedd hefyd yn ail mewn gwobr ryngwladol. Roedd yn Ymchwilydd Data Cyfathrebu ymroddedig ar gyfer Ymgyrch Globe, gan chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau data cyfathrebu er mwyn helpu i euogfarnu Ian Watkins. Arweiniodd y tîm yn ystod cyfnod o newid, gan wella perfformiad yn sylweddol. |