Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd mwy na chwarter miliwn o bunnoedd ei atal rhag cael ei golli i droseddwyr yn ystod mis Medi gan gydweithwyr ledled yr heddlu gan gydnabod pan allai rhywun fod yn destun twyll.
Menter genedlaethol yw'r Protocol Bancio sy'n seiliedig ar gydweithio rhwng sefydliadau gorfodi'r gyfraith a sefydliadau ariannol, wedi'i hwyluso gan UK Finance – lle disgwylir i fanciau, swyddfeydd post, cyfnewidfeydd teithio ac eraill roi gwybod i'r heddlu os bydd ganddynt unrhyw amheuon am gais cwsmer i godi arian.
Gallai'r ceisiadau amheus hyn gynnwys cwsmer yn ceisio codi ei holl arian ar unwaith neu'n mynd i mewn i'w orddrafft pan nad yw wedi gwneud hynny o'r blaen.
Mewn sgamiau megis twyll cludwyr, pan fydd troseddwyr yn casglu arian parod neu gardiau oddi wrth eu dioddefwr wyneb yn wyneb, bydd twyllwyr yn aml yn dweud wrth eu darpar ddioddefwr bod yr heddlu yn llygredig neu fod ymchwiliad yn cael ei gynnal ar y banc ac felly na ddylai'r dioddefwr ddweud wrth neb pam y mae'n codi arian parod.
Mae'r troseddwr yn rhoi stori gefndirol i'r dioddefwr er mwyn iddo ei hadrodd i unrhyw aelod o staff y banc fydd yn cwestiynu ei amgylchiadau, tra bod risg weithiau hefyd bod y twyllwr ar y ffôn o hyd pan fydd y cwsmer yn mynd i'r banc – ac weithiau mae'r unigolion dan amheuaeth hyd yn oed wedi mynd gyda'r dioddefwyr i'r banc.
Mae'r Protocol Bancio yn dibynnu ar staff y banc i roi gwybod am eu pryderon ac i ffonio'r heddlu yn brydlon, ac ar swyddogion sy'n cyrraedd i ofyn y cwestiynau cywir ac i ddarganfod y gwir reswm dros godi'r arian.
Mae system newydd a roddwyd ar waith yn Heddlu De Cymru yn golygu y gall cydweithwyr Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus (ystafell reoli) weithio'n agos gyda swyddogion yr heddlu sy'n mynychu i geisio dod o hyd i'r gwir reswm dros achos amheus o godi arian, a chael cymorth pellach gan ein Huned Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau arbenigol.
Mae wir yn ymdrech tîm, ac yn ystod mis Medi, cafodd bron i £260,000 eí arbed rhag cael ei golli gan ddarpar ddioddefwyr. Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith caled parhaus wrth helpu i ddiogelu pobl ledled De Cymru.